
2006 Rhif 1343 (Cy.133)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 16 Mai 2006
Yn dod i rym 31 Mai 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3D), 4(2)(ba) a (d), 4A, 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mai 2006.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
2 
Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000yn cael eu diwygio fel a ganlyn–
(a) yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o “corff priodol”rhodder y canlynol—“
 mae i “corff priodol” (“appropriate body”) yr ystyr sydd i'r ymadrodd yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005;”;
(b) ar ôl rheoliad 4 mewnosoder y rheoliadau canlynol –“
Addasrwydd i fod yn athro neu'n athrawes
4A 

(1) Nid yw'r Cyngor i gymryd bod unrhyw berson yn addas i fod yn athro neu'n athrawes os yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr wedi gwrthod cais am i'r person gael ei gofrestru a hynny am y rheswm nad oedd Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr yn fodlon ei fod yn addas i fod yn athro neu'n athrawes o dan adran 3(3B) o Ddeddf 1998.
(2) Rhaid i'r Cyngor gymryd bod unrhyw berson yn addas i fod yn athro neu athrawes os yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr wedi ei gofrestru a bod Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ar adeg cofrestru'r person yn fodlon ei fod yn addas i fod yn athro neu'n athrawes o dan adran 3(3B) o Ddeddf 1998.
Hysbysu o'r penderfyniad
4B 

(1) Rhaid i'r Cyngor gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud cais am gael ei gofrestru hysbysiad o'i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod y cais.
(2) Os gwrthodir y cais cofrestru, rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) nodi ar ba sail y gwnaed y penderfyniad, ac os sail gwrthod y cais oedd nad oedd y Cyngor yn fodlon bod y ceisydd yn addas i fod yn athro neu'n athrawes rhaid iddo hysbysu'r ceisydd o'i hawl i apelio i'r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad a wnaed, ac o beth yw'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud ap 144 l o'r fath.
Apelau
4C 
Mae gan unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad i wrthod cais am gofrestru a wnaed mewn perthynas ag ef ar y sail nad oedd y Cyngor yn fodlon bod y ceisydd yn addas i fod yn athro neu'n athrawes yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Uchel Lys o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyflwynwyd iddo hysbysiad o'r penderfyniad.
Cyflwyno Hysbysiadau
4CH 

(1) Caniateir i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan reoliad 4B–
(i) cael ei draddodi i'r person hwnnw'n bersonol; neu
(ii) cael ei anfon drwy'r post at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddwyd i'r Cyngor gan y person; neu
(ii) cael ei anfon ato ar ffurf ffacsimili neu bost electronig neu drwy ddull tebyg sy'n caniatáu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig i ddogfennau gael eu cyflwyno iddo drwy'r cyfryw ddull, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan yw'n dod i law'r person hwnnw ar ffurf ddarllenadwy.
(2) At ddibenion rheoliad 4C cymerir bod hysbysiad o benderfyniad y Cyngor wedi'i gyflwyno i'r person y cafodd yr hysbysiad ei wneud mewn perthynas ag ef–
(i) os cafodd ei draddodi i'r person hwnnw'n bersonol, ar y diwrnod y cafodd ei draddodi;
(ii) os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddodd y person i'r Cyngor, a hynny drwy wasanaeth post sy'n ceisio traddodi dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf ym mhob achos neu yn y mwyafrif o achosion, neu os cafodd ei adael yn y cyfeiriad hwnnw, ar yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd neu y'i gadawyd;
(iii) os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddodd y person i'r Cyngor drwy wasanaeth post ac eithrio un sy'n ceisio traddodi dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf ym mhob achos neu yn y mwyafrif o achosion, ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd; neu
(iv) os y'i cyflwynwyd yn unol â chais o dan baragraff (1)(iii), ar yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd.”; ac
(c) yn Atodlen 1, o flaen paragraff 1 mewnosoder–“
(A1) Os yw'r person wedi'i gofrestru ar neu ar ôl 31 Mai, y dyddiad y cafodd ei gofrestru.”;
(ch) yn Atodlen 2, mewnosoder ar ddiwedd paragraff 1 y geiriau “ac, os yw'r athro wedi'i gofrestru, y dyddiad y cafodd ei gofrestru”; a
(d) ar ôl paragraff 11 o Atodlen 2 mewnosoder y paragraff canlynol–“
11A 
Os yw person wedi ei gael yn anghymwys i gael ei gofrestru yn unol ag adran 3(3B) o Ddeddf 1998, y ffaith honno ac, os rhoddir yr wybodaeth honno i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban neu i Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon (ond nid fel arall), fanylion ynghylch sail y penderfyniad i wrthod cais y person am gael ei gofrestru.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
116 Mai 2006