
2006 Rhif 1341 (Cy.132)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006
Wedi'i wneud 16 Mai 2006
Yn dod i rym 31 Mai 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y gall Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried ei amcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn ar ôl cyflawni unrhyw ymgynghori y mae o'r farn ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006 a daw i rym ar 31 Mai 2006.
Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000
2 
Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn Rhan I o'r Atodlen, ym mharagraff 2 ar ôl “(c)”mewnosoder “, (3B)”; a
(b) yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 20, mewnosoder—“
20A 
Pan yw person yn athro neu'n athrawes gymwysedig sy'n anghymwys i gael ei gofrestru yn unol ag adran 3(3B) o Ddeddf 1998, (h.y. gan nad yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod y person yn addas i fod yn athro neu'n athrawes), manylion yn nodi ar ba sail y penderfynwyd gwrthod y cais.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006