
2006 Rhif 1339 (Cy.131)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 16 Mai 2006
Yn dod i rym 24 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno mae wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, bu ymgynghoriad agored a thryloyw wrth i'r Rheoliadau hyn gael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2006, a deuant i rym ar 24 Mai 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003 fel a ganlyn—
(a) ar ddiwedd rheoliad 4(2) mewnosoder—“a byddant yn enwau a ragnodwyd gan y gyfraith at ddibenion paragraff (1).”; a
(b) yn lle'r Atodlen rhodder cynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2(b)
“
“YR ATODLEN
DYNODIADAU MASNACHOL
Rheoliad 4
1 
Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 a 3, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod a bennir yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1.
2 
Caniateir defnyddio enw arferol ar gyfer unrhyw rywogaeth o bysgod sydd wedi cael eu mygu neu gael eu rhoi drwy broses debyg, onid yw enw'r rhywogaeth yng ngholofn 2 o'r Tabl canlynol yn cael ei ddilyn gan seren. Yn yr achosion hynny rhaid i'r enw a ddefnyddir ar gyfer y bwyd pan fydd y pysgod wedi eu mygu fod naill ai—
(a) yn enw a bennir ar gyfer y rhywogaeth honno yng ngholofn 1 o'r Tabl a enwyd gyda'r geiriau “wedi'i fygu”, “wedi'i mygu” neu “wedi'u mygu” ar ei ôl; neu
(b) ac eithrio yn achos Salmo Salar (L.), “eog y Môr Tawel wedi'i fygu”.
3 
Ni fydd paragraff 1, o'i ddarllen ynghyd â'r Tabl, yn gymwys i bysgod a reoleiddir gan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2136/89 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1181/2003 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer sardîns neu benwaig Mair wedi'u preserfio, neu Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1536/92 sy'n gosod safonau marchnata cyffredin ar gyfer tiwna a bonito wedi'u preserfio.

Colofn 1 Colofn 2
Dynodiad masnachol Rhywogaeth o bysgod
Pysgod môr 
Baracwda Pob rhywogaeth o Sphyraena
Baramwndi Lates calcarifer
Bonito Pob rhywogaeth o SardaPob rhywogaeth o Euthynnus, ac eithrio Euthynnus (Katsuwonus) pelamisPob rhywogaeth o Auxis
Brithyll y graig neu Codyn hir Ophiodon elongatus
Brwyniad Pob rhywogaeth o'r teulu Engraulidae
Brwyniad Conwy neu Môr-frithyll neu Perl neu Gwyniedyn Ebrill Pob rhywogaeth o Osmerus
Cathbysg môr Pob rhywogaeth o'r teulu Ariidae
Cegddu Pob rhywogaeth o MerlucciusFel arall, gellir defnyddio'r canlynol
Cegddu'r Penrhyn Merluccius capensisMerluccius paradoxus
Cegddu gwyn Urophycis tenuis
Cipiwr Pob rhywogaeth o'r teulu LutjanidaeFel arall, gellir defnyddio'r canlynol
Pysgodyn job Pob rhywogaeth o AphareusPob rhywogaeth o AprionPob rhywogaeth o Pristipomoides
Codyn Ebrill Trisopterus minutus
Codyn llwyd Trisopterus luscus
Corbenfras neu Hadog Melanogrammus aeglefinus (L.)
Corbennog Sprattus sprattus (L.)
Cornbig neu Pigbysg neu Carrai fôr neu Môr-nodwydd Belone belone
Chwitlin glas neu Celog Pollachius virens (L.)
Chwyrnwr Pob rhywogaeth o'r teulu TriglidaePeristedion cataphractum (L.)
Draenog môr oren Hoplostethus atlanticus
Draenogyn môr Dicentrarchus labrax (L.)
Draenogyn môr brych Dicentrarchus punctatus
Draenogyn môr y De Paralabrax callaensis
Draenogyn môr Japan Lateolabrax japonicus
Draenogyn tywod torpedo Diplectrum maximum
Drymiwr Pob rhywogaeth o'r teulu SciaenidaeFel arall, gellir defnyddio'r canlynol
Drymiwr y De Argyrosomus hololepidotus
Drymiwr brenhinol Argyrosomus regius
Grwper Pob rhywogaeth o MycteropercaPob rhywogaeth o Epinephelus
Gweinbysgodyn Lepidopus caudatusAphanopus carbo
Gwrachen Pob rhywogaeth o'r teulu Labridae
Gwyniad môr neu Swtan neu Chwitlyn gwyn Merlangius merlangus (L.)
Heulgi Cetorhinus maximus
Hilsa Tenualosa ilisha
Hoci Macruronus novaezelandiae
Hoci Chile Macruronus magellanicus
Honos Pob rhywogaeth o Molva ac eithrio Molva dypterygia
Honos glas Molva dypterygia
Hwylbysgodyn Pob rhywogaeth o Istiophorus
Hyrddyn (llwyd) Pob rhywogaeth o'r teulu Mugilidae
Iâr fôr neu Pysgodyn clytsiwr Cyclopterus lumpus
Lleden betral Eopsetta jordani
Lleden Califfornia Parophrys vetulus
Lleden chwithig neu Lleden wadn Solea solea (L.)
Lleden dannedd blaenllym Atherestes stomias
Lleden dywod Limanda limanda (L.)
Lleden dywod felen Limanda ferruginea
Lleden dywod y Môr Tawel Citharichthys sordidus
Lleden esgyll hirion Glyptocephalus zachirus
Lleden Fair Pob rhywogaeth o Lepidorhombus
Lleden fannog Scophthalmus rhombus (L.)
Lleden felen Limanda aspera
Lleden fraith Paralichthys woolmani
Lleden fŵ d neu Lleden llaid neu Lleden ddu Platichthys flesus (L.)
Lleden Ffrengig neu Lleden fawr Hippoglossus hippoglossus (L.)Hippoglossus stenolepis
Lleden y gaeaf Pseudopleuronectes americanus (Walbaum)
Lleden goch neu Lleden frech Pleuronectes platessa (L.)
Lleden gennog Hippoglossoides platessoides (Fabr.)
Lleden y graig Lepidopsetta bilineata
Lleden lefn Microstomus kitt (Walbaum)
Lleden y Môr Tawel Microstomus pacificus
Lleden wrach Glyptocephalus cynoglossus (L.)
Lleden yr Ynys Las Reinhardtius hippoglossoides (Walbaum)
Lledrbysg Lichia amia
Lloerbysg Periw Selene peruviana
Llygaid mawr Pob rhywogaeth o Priacanthus
Llymrïen Ammodytes tobianus
Llysywen Pob rhywogaeth o Anguilla
Llysywen fôr Pob rhywogaeth o Conger
Macrell Pob rhywogaeth o Scomber
Macrell frenhinol Scomberomorus cavalla
Macrell India Pob rhywogaeth o Rastrelliger
Macrell neidraidd Pob rhywogaeth o'r teulu Gempylidae
Macrell Sierra Scomberomorus sierra
Maelgi Lophius piscatorius (L.)Lophius americanusLophiodes caulinarisLophius budegassa
Maelgi'r Penrhyn Lophius vomerinus
Maelgi'r Môr Tawel Lophius litulon
Mahi Mahi Coryphaena hippurus
Marchfacrell Pob rhywogaeth o CaranxPob rhywogaeth o HemicaranxPob rhywogaeth o SeriolaPob rhywogaeth o TrachurusPob rhywogaeth o Decapterus
Marchfacrell felen Fel arall, gellir defnyddio'r canlynolSeriola lalandi
Marchfacrell y Penrhyn Genypterus capensis
Marlin Pob rhywogaeth o Makaira
Merfog Pob rhywogaeth o BramaPob rhywogaeth o StromateusPob rhywogaeth o Pampus
Merfog esgyll edafog Pob rhywogaeth o Nemipterus
Merfog Môr neu Porgi Pob rhywogaeth o'r teulu Sparidae ac eithrio Boops boops
Mingrwn (coch) neu Hyrddyn coch Pob rhywogaeth o'r teulu Mullidae
Morfilgi Rhincodon typus
Morflaidd Pob rhywogaeth o Anarhichas
Morgath Pob rhywogaeth o'r teulu Rajidae
Morgi Pob rhywogaeth o GaleorhinusPob rhywogaeth o MustelusPob rhywogaeth o ScyliorhinusGaleus melastomus Squalus acanthias (L.)
Morgi blaenddu Carcharhinus limbatus
Morgi sidanaidd Carcharhinus falciformis
Morgi traethell Carcharhinus plumbeus
Morgi trwynfain neu Maco Isurus oxyrinchus
Morgi trwynog neu Corgi môr Lamna nasus
Morgi glas Prionace glauca
Morlas Pollachius pollachius (L.)
Morlas y Môr Tawel Theragra chalcogramma (Pallas)
Môr-wiber neu Pryf traeth neu Diawl dan Draed neu Pysgodyn Bwyell Pob rhywogaeth o'r teulu Trachinidae
Opa Pob rhywogaeth o Lampris
Parot môr Pob rhywogaeth o'r teulu Scaridae
Penfras neu Codyn neu Còd Gadus morhua
Penfras coch Pseudophycis bachus
Penfras glas Parapercis colias
Penfras saffrwm Eleginus gracilis
Penfras y Môr Tawel Gadus macrocephalus
Penfras yr Ynys Las Gadus ogac
Pennog neu Ysgadenyn Clupea harengus (L.)
Pennog Mair Sardina pilchardus (Walbaum)
Pennog Mair y Môr Tawel Sardinops sagax a ddaliwyd yn y Môr Tawel
Pennog Mair De'r Iwerydd Sardinops sagax a ddaliwyd yn Ne'r Iwerydd.
Picarel Spicara smaris
Pysgod arian Pob rhywogaeth o'r teulu Argentinidae
Pysgodyn cleddyf Xiphias gladius
Pysgodyn coch Pob rhywogaeth o SebastesPob rhywogaeth o Helicolenus
Pysgodyn darn arian Zeus faber (L.)
Pysgodyn glas Pomatomus saltatrix
Pysgodyn hedegog Pob rhywogaeth o'r teulu Exocoetidae
Pysgodyn iâ Dissostichus mawsoniDissostichus eleginoides
Pysgodyn llaeth Chanos chanos
Pysgodyn llygad llo Boops boops
Pysgodyn Mair Pob rhywogaeth o'r teulu Elopidae
Pysgodyn sabl Anoplopoma fimbria
Pysgodyn ystlys arian Pob rhywogaeth o'r teulu Atherinidae
Robalo Pob rhywogaeth o Centropomus
Rocer Raja clavata
Rhedwr seithliw Elagatis bipinnulata
Sardîn neu Pennog Mair Sardina pilchardus (Walbaum) bach
Sardinela Pob rhywogaeth o Sardinella
Sêr-dremiwr Pob rhywogaeth o'r teulu Uranoscopidae
Sgipjac Katsuwonus pelamis
Sgorpion môr du Scorpaena porcus
Sild neu Pennog Norwy Clupea harengus (L.) bach mewn tunSprattus sprattus (L.) bach mewn tun
Silod Mân Clupea harengus (L.) bachSprattus sprattus (L.) bach (ac eithrio mewn tun)
Swtan glas Micromesistius poutassou (Risso)
Swtan glas y De Micromesistius australis
Tarpon Pob rhywogaeth o'r teulu Megalopidae
Tiwna Pob rhywogaeth o Thunnus
Tiwna esgyll hirion neu Tiwna asgellog Thunnus alalunga
Tiwna melyn Thunnus albacares
Tiwna glas (neu Tiwna) Thunnus thynnus
Tiwna glas y Môr Tawel Thunnus orientalis
Tiwna glas y De Thunnus maccoyii
Tiwna llygaid mawr Thunnus obesus
Torbwt neu Lleden y môr neu Tafod yr hydd neu Lleden arw neu Lleden chwith Psetta maxima
Wahŵ Acanthocybium solandri
Ymherodr Pob rhywogaeth o Lethrinus
Eogiaid a Physgod Dŵ r Croyw 
Batashi Pseudeutropius atherinoides
Batsia Eutropiichthys vacha
Brithyll Salmo trutta trutta (L.) sydd treulio'i fywyd cyfan mewn dwr croyw
Brithyll gyddfgoch Oncorhynchus clarki clarki
Brithyll seithliw Oncorhynchus mykiss
Cacila Xenentodon cancila
Cathbysg Pob rhywogaeth o'r teulu Ictaluridae
Cathbysg Pob rhywogaeth o'r teulu ClariidaePob rhywogaeth o'r teulu SiluridaePob rhywogaeth o'r teulu BagridaePob rhywogaeth o'r teulu PimelodidaeFel arall, gellir defnyddio'r canlynol
Magwr Clarias batrachus
Gwlsia Mystus bleekeri
Bwswri Mystus tengara
Tengra Mystus vittatus
Pabda Ompok pabda
Aere Sperata aor
Boal Wallago attu
Cerpyn Pob rhywogaeth o'r teulu CyprinidaeFel arall, gellir defnyddio'r canlynol
Mowrala Amblypharyngodon mola
Banspata Danio devario
Bata Labeo bata
Calibws Labeo calbasu
Gania Labeo gonius
Rwhi Labeo rohita
Pwnti Puntius sarana
Tsielapata Salmostoma bacaila
Barfogyn Barbus barbus
Sgreten Tinca tinca
Merfog Dŵ r Croyw Abramis brama
Rhufell Rutilus rutilus
Cerpyn euraidd Anabas testudineus
Cesci Corica soborna
Crydd yr afon Pob rhywogaeth o PangasiusPangasius hypophthalmus
Chalisia Colisa fasciatus
Draenogyn afon Nîl Lates niloticus
Draenogyn ceg fawr Stizostedion lucioperca
Eog neu Samon Salmo salar (L.)*
Eog y Môr Tawel Oncorhynchus masou masou*
Eog Ceta Oncorhynchus keta (Walbaum)*
Eog cochlyd Oncorhynchus kisutch (Walbaum)*
Eog cefngrwm Oncorhynchus gorbuscha (Walbaum)*
Eog coch Oncorhynchus nerka (Walbaum)*
Eog y Môr Tawel Oncorhynchus tshawytscha (Walbaum)*
Gwyniad yr Arctig Coregonus autumnalis
Gwyniad Ewrop Coregonus albula
Largebaim Mastacembelus armatus
Meni Nandus nandus
Pacw Piaractus mesopotamicus
Patabaim Macrognathus aculeatus
Penhwyad Esox lucius
Siwin Salmo trutta trutta (L.) sydd wedi treulio rhan o'i fywyd yn y môr
Pysgodyn y Frenhines Botia dario
Siol Channa striata
Taci Channa punctata
Tambaci neu Catsiama Colossoma macroponum
Tilapia Pob rhywogaeth o TilapiaPob rhywogaeth o Oreochromis
Torgoch Pob rhywogaeth o Salvelinus
Tsiapila Gudusia chapra
Pysgod Cregyn 
Berdysen Berdys cyfain (o faint sy'n cyfateb i 397 ohonynt y cilo neu fwy pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i 1,323 y cilo neu fwy pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o—
 bob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae,
 pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae,
 pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae, a
 phob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae
Berdysen y tywod Pob rhywogaeth o Crangon
Cimwch Pob rhywogaeth o Homarus
Cimwch bach y Môr Tawel Metanephrops andamanicus Metanephrops challengeriMetanephrops thomsoni
Cimwch byrdew Pob rhywogaeth o'r teulu Galatheidae
Ciwmch Cefnfor India Puerulus sewelli Puerulus carinatusPuerulus angulatus
Cimwch coch neuSiacar goch neu Pob rhywogaeth o Panulirus
Cimwch Mair Pob rhywogaeth o PalinurusPob rhywogaeth o Jasus
Cimwch Norwy Nephrops norvegicus (L.)
Cimwch pen rhaw Pob rhywogaeth o'r teulu Scyllaridae
Cocosen Pob rhywogaeth o Cerastoderma
Cocosen fraith Glycymeris glycymeris
Corgimwch Corgimychiaid cyfain (o faint sy'n cyfateb i lai na 397 ohonynt y cilo pan fyddant wedi'u coginio) neu gynffonnau (o faint sy'n cyfateb i lai na 1,323 y cilo pan fyddant wedi'u pilio a'u coginio) o—
 pob rhywogaeth o'r teulu Palaemonidae,
 pob rhywogaeth o'r teulu Penaeidae,
 pob rhywogaeth o'r teulu Aristaeidae
 pob rhywogaeth o'r teulu Pandalidae
Corgimwch Esop Pandalus montagui
Corgimwch mantis Squilla mantis
Corgimwch rhesog Penaeus monodonPenaeus semisulcatusPenaeus esculentusPenaeus kerathurusPenaeus japonicusParapenaeopsis hardwickiiParapenaeopsis sculptilis
Cragen Arch Pob rhywogaeth o'r teulu Arcidae
Cragen y dyfrgi Lutraria lutraria
Cragen foch fwyaf Pob rhywogaeth o Buccinum
Cyllell fôr Pob rhywogaeth o Ensis a Solen
Cragen Forwyn fwyaf Mercenaria mercenaria (L.)Venus verrucosa (L.)
Cragen fylchog Pob rhywogaeth o'r teulu Pectinidae
Cragen fylchog neu Cragen Aberffro Pecten maximus
Cragen fylchog frodorol Tapes decussatusRuditapes decussatusVenerupis decussa
Cragen fylchog yr Iwerydd Placopecten magellanicus
Cragen fylchog Manila Tapes philippinarumRuditapes philippinarum
Cragen las Pob rhywogaeth o'r teulu Mytilidae
Cragen noe Pob rhywogaeth o Spisula
Cranc Pob rhywogaeth o'r urdd BrachyuraPob rhywogaeth o'r teulu Lithodidae
Cwin neu Cragen y Frenhines Chlamys (Aequipecten) opercularis
Draenog môr Pob rhywogaeth o'r teulu Echinidae
Encudd y tywod Mya spp
Gwichiad Pob rhywogaeth o Littorina
Gwydwg Panopea abrupta
Marchgorgimwch Pob rhywogaeth o'r teulu PalaemonidaePob rhywogaeth o'r teulu PenaeidaePob rhywogaeth o'r teulu AristaeidaePan fônt yn cyfateb i lai na 123 y cilo (gan gynnwys y pen/y gragen) neu lai na 198 y cilo (heb ben/gan gynnwys y gragen) neu lai na 242 y cilo (heb ben/heb gragen)
Morglust neu Cragen gasgliad Pob rhywogaeth o Haliotis
Môr-lawes flaenllym Nototodarus sloaniNototodarus gouldi
Môr-lawes gyffredin neu Pob rhywogaeth o Loligo
Twyllwr du cyffredin neu Sgwid Pob rhywogaeth o IllexOmmastrephes sagittatus
Octopws Pob rhywogaeth o Octopus
Siacar Pob rhywogaeth o'r teulu AstacidaePob rhywogaeth o'r teulu ParastacidaePob rhywogaeth o'r teulu AustroastacidaePob rhywogaeth o'r teulu Cambaridae
Wystrysen neu Pob rhywogaeth o Llymarch CrassostreaPob rhywogaeth o Ostrea
Wystrysen neu Llymarch Ostrea edulis (L.)
Wystrysen y Môr Tawel Crassostrea gigas (Thunberg)
Wystrysen Portiwgal Crassostrea angulata (Lmk.)
Ystifflog Pob rhywogaeth o Sepia Rossia macrosoma”