
2006 Rhif 1336 (Cy.129) (C.44)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 16 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Y diwrnod penodedig
4 

(1) 31 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Mae Rhan 2 o'r Atodlen honno (Darpariaeth drosiannol) yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
YR ATODLEN
Rhan 1 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mai 2006
Erthygl 4

Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 148, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a'r General Teaching Council for England
Yn Atodlen 12, Rhan 1, paragraff 3(1), paragraff 3(5) i'r graddau y mae'n mewnosod is-adrannau (3B) a (3D) o adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 4(2) a (5). Diwygiadau i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
Rhan 2 Darpariaeth drosiannol
Hyd oni chaiff paragraff 3(5) o Atodlen 12 ei ddwyn i rym yn llawn o ran Cymru, mae adran newydd 3(3B) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (y caiff ei mewnosod gan baragraff 3(5) o Atodlen 12 ei ddwyn i rym gan y Gorchymyn hwn) i gael effaith fel pe byddai'r geiriau “provisional registration or full” wedi'u hepgor, ac fel pe byddid wedi rhoi yn lle'r geiriau “relevant time” y geiriau “time of registration”.
