
2006 Rhif 1335 (Cy.128)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006
Wedi'u gwneud 16 Mai 2006
Yn dod i rym 1 Awst 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 112 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.
(2) Maent yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn–
 ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru neu'r Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales;
 ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau a achredir ar y cyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n arfer swyddogaethau a freiniwyd gynt yn ACCAC a'r awdurdodau rheoleiddio cyfatebol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ystyr “lefel” (“level”) yw'r lefel yr achredir cymhwyster ati o fewn yr NQF;
 mae “y pedwerydd cyfnod allweddol” i'w ddehongli yn unol ag ystyr “the fourth key stage” yn adran 103(1) o Ddeddf 2002; ac
 ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (ac eithrio un a sefydlwyd mewn ysbyty).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at ofynion adran 106(1) o Ddeddf 2002 i'r graddau y maent yn gymwys i wyddoniaeth.
Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, ni fydd gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gymwys i ddisgybl mewn ysgol a gynhelir ar unrhyw bryd pan fo pennaeth yr ysgol wedi'i fodloni bod y disgybl yn dilyn cwrs sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster gwyddoniaeth perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae cymhwyster yn gymhwyster gwyddoniaeth perthnasol–
(a) os yw, ar yr amser perthnasol, wedi'i gymeradwyo o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, at ddibenion adran 96(2)(b) o'r Ddeddf honno, fel cymhwyster allanol y caniateir i'r cwrs sy'n arwain ato gael ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir, a
(b) os yw'r cymhwyster yn gymhwyster mewn gwyddoniaeth yn yr NQF ar y lefel mynediad, ar lefel 1 neu ar lefel 2.
Dyddiad Dod i Ben y Rheoliadau
4 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd Gorffennaf 2008.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006