
2006 Rhif 1278 (Cy.123) (C.41)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 10 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enw
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006.
Cychwyn
2 
I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, daw adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym ar 11 Mai 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006