
2006 Rhif 1262 (Cy.119)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi'u gwneud 3 Mai 2006
Yn dod i rym 1 Awst 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003fel a ganlyn.
(2) Yn adran 3, yn nhrefn briodol yr wyddor mewnosoder–“
 mae “cyfnod allweddol” i'w ddehongli yn unol â “key stage” yn adran 103 o Ddeddf Addysg 2002”.
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder–“
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2006- 2007 a 2007- 2008 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu unrhyw un neu fwy o'r ffurfiau canlynol o hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), sef–
(a) hyfforddiant mewn, neu mewn cysylltiad â, paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol, neu os yw'n disgwyl hynny, gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath);
(b) hyfforddiant ynghylch newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru;
(c) hyfforddiant ynghylch cynigion y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn ei gylchlythyr 37/2004 o dan y teitl “Llwybrau Dysgu 14- 19”ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14- 19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys ar eu cyfer.
(3) Os bydd paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, rhaid gweld y sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mai 2006