
2006 Rhif 1261 (Cy.118)
HAWLIAU BRIDWYR PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud 3 Mai 2006
Yn dod i rym 12 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(6) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ar ôl ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gynrychioliadol o'r personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 12 Mai 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol
2 
Mae adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn peidio â chael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thoma
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mai 2006