
2006 Rhif 123 (Cy.16)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud 24 Ionawr 2006
Yn dod i rym 26 Ionawr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi, o ran Cymru, at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2006.
Cymhwyso dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref i wastraff o eiddo domestig yng Nghymru
2 

(1) Yn adran 34(2A) (dyletswydd gofal etc. o ran gwastraff) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”.
(2) Yn adran 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992, ar ôl “England” mewnosoder “or Wales”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2006