
2006 Rhif 1053 (Cy.109)
ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006
Wedi 4 Ebrill 2006
Yn dod i rym 2 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 83(2), 87(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Mai 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984 a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990 drwy hyn wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
3 

(1) Yn y Gorchymyn hwn:—
 “adweithydd” (“reactor”) yw anifail buchol sy'n adweithio i brawf perthnasol mewn modd sy'n gyson â'i fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis;
 “anifail a amheuir” (“suspected animal”) yw anifail buchol yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis, ac mae'n cynnwys adweithydd;
 “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg domestig o'r genws Bos, byfflo a bual;
 “anifail yr effeithiwyd arno” (“affected animal”) yw buwch yr effeithiwyd arni gan dwbercwlosis y pwrs neu sy'n rhoi llaeth twbercylaidd, neu anifail buchol yr effeithiwyd arno gan deneuo twbercylaidd, neu sy'n ysgarthu neu'n gollwng deunydd twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan beswch cronig, neu sy'n dangos unrhyw arwydd clinigol arall o dwbercwlosis;
 “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
 “prawf croen” (“skin test”) yw prawf twbercwlin serfigol cymharol mewngroen sengl;
 “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw prawf croen neu brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis;
 “y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“the Divisional Veterinary Manager”) yw'r archwiliwr milfeddygol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol i dderbyn gwybodaeth ynghylch anifeiliaid neu garcasau yr effeithiwyd arnynt gan glefydau penodedig, neu yr amheuir eu bod wedi'u heffeithio felly, ar gyfer yr ardal lle mae'r anifail neu'r carcas;
 “twbercwlosis” (“tuberculosis”) yw heintiad â Mycobacterium bovis (M.bovis);
 “uned besgi” (“finishing unit”) yw mangre lle mae anifeiliaid buchol yn cael eu pesgi ac o'r lle y'u hanfonir i'w cigydda.
Estyn y diffiniad o “disease” a phŵer i gigydda o achos twbercwlosis
4 
At ddibenion y Ddeddf, estynnir y diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o'r Ddeddf fel ag i gynnwys twbercwlosis, ac mae adran 32 o'r Ddeddf (pŵer i gigydda anifeiliaid) yn gymwys o ran y clefyd hwnnw.
Hysbysu ynghylch y clefyd mewn anifeiliaid buchol
5 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n amau fod anifail buchol sydd yn ei feddiant neu o dan ei ofal mewn unrhyw fangre yn anifail yr effeithiwyd arno, neu'n anifail a allai fod felly, wneud y canlynol yn ddi-oed—
(a) hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol
(b) hyd y cwblheir yr ymchwiliad milfeddygol o dan erthygl 7 a chyflwyno unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl honno—
(i) cadw'r anifail hwnnw yn y fangre lle mae ar yr adeg honno;
(ii) ei ynysu i'r graddau y mae hynny'n ymarferol oddi wrth anifeiliaid buchol eraill; a
(iii) arfer rhagofalon mewn perthynas â llaeth a gynhyrchwyd gan yr anifail hwnnw fel pe bai hysbysiad o dan erthygl 7 wedi'i gyflwyno'n barod.
(2) Rhaid i filfeddyg sy'n amau fod anifail a archwiliwyd ganddo yng nghwrs ei waith yn anifail yr effeithiwyd arno, neu'n anifail a allai fod felly, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddi-oed.
Hysbysu ynghylch y clefyd mewn carcasau
6 

(1) Rhaid i unrhyw berson—
(a) y mae yna yn ei feddiant neu o dan ei ofal mewn unrhyw fangre unrhyw garcas yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, neu garcas yr amheuir ei fod felly;
(b) sydd yng nghwrs ei waith fel milfeddyg yn archwilio unrhyw garcas o'r fath; neu
(c) sydd yng nghwrs ei ddyletswyddau'n archwilio'r fath garcas i unrhyw ddiben;
cyn gynted ag y bydd yn amau y gallai'r carcas fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol.
(2) Rhaid i berson y mae yna yn ei feddiant neu o dan ei ofal garcas y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ei gadw yn y fangre lle mae ar yr adeg honno hyd nes y bydd wedi'i archwilio gan arolygwr milfeddygol.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) uchod, mae “carcas” (“carcase”) yn golygu carcas unrhyw anifail buchol neu famal a ffermir neu famal anwes arall.
Ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb y clefyd
7 

(1) Pan fo gan archwiliwr milfeddygol reswm i gredu bod anifail yr effeithiwyd arno neu anifail a amheuir (heblaw adweithydd) neu garcas anifail buchol yr effeithiwyd arno neu yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis yn bresennol mewn unrhyw fangre, rhaid iddo, a hynny mor gyflym ag sy'n ymarferol, gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i ddarganfod a yw mewn difri'n anifail neu garcas yr effeithiwyd arno neu'n anifail neu garcas a amheuir.
(2) At ddibenion cyflawni'i ddyletswyddau o dan yr erthygl hon, caiff archwiliwr milfeddygol archwilio unrhyw anifail buchol neu garcas anifail buchol yn y fangre a chymryd pa bynnag samplau o unrhyw anifail neu garcas o'r fath neu gyflawni pa bynnag brofion ag sy'n ofynnol i'r diben o wneud diagnosis.
(3) Rhaid i archwiliwr milfeddygol gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail buchol a archwiliwyd ganddo sydd yn ei farn yn anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad—
(a) cadw'r anifail hwnnw yn unol â gofynion yr hysbysiad a'i gadw wedi'i ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill;
(b) lle bo hynny'n briodol, yn cymryd camau i sicrhau nad yw'r llaeth a gynhyrchwyd gan yr anifail yn cael ei gymysgu â llaeth arall a'i fod yn cael ei ferwi neu ei sterileiddio mewn ffordd arall, a bod unrhyw lestr y bu'r llaeth hwnnw mewn cysylltiad ag ef cyn ei drin felly yn gorfod cael ei lanhau'n drwyadl a'i sgaldio gyda stêm neu ddŵr berwedig cyn y defnyddir y teclyn eto; ac
(c) yn sicrhau na chaiff unrhyw anifail buchol ei symud i'r fangre neu allan ohoni, neu i unrhyw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad neu allan o'r fath ran, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
Profi ar gyfer twbercwlosis
8 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifail buchol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail o'r fath gael ei brofi ar gyfer twbercwlosis erbyn dyddiad penodedig.
(2) Heb ragfarnu erthygl 13, pan fu yna fethiant i brofi anifail yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1) caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail hwnnw, wahardd symud anifeiliaid buchol neu'r anifeiliaid buchol hynny a bennir yn yr hysbysiad i'r fangre neu allan ohoni, neu i unrhyw ran o'r fangre neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(3) Rhaid i geidwad anifail buchol gydymffurfio â phob gofyniad rhesymol a wneir gan yr arolygydd, parthed—
(a) hwyluso archwilio'r anifail hwnnw gan yr arolygydd hwnnw;
(b) cyflawni unrhyw brawf perthnasol ar gyfer twbercwlosis arno; neu
(c) penderfynu ar werth yr the anifail mewn achos pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu peri ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf wedi'i chymhwyso o ran twbercwlosis,
ac yn arbennig rhaid iddo drefnu ar ei draul ei hun i gasglu, corlannu a chadw unrhyw anifail o'r fath yn ddiogel os gofynnir hynny.
(4) Heb ragfarnu unrhyw achos ar gyfer trosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliad 1981 yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, pan fu yna fethiant i brofi anifail yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd neu beri cymryd yr holl gamau a all fod yn angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi ac, os yn briodol, penderfynu ar werth yr anifail hwnnw (yn cynnwys symud yr anifail o'r fangre lle'i cedwir), a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill cyfanswm unrhyw dreuliau a ddaeth yn rhesymol i ran y Cynulliad Cenedlaethol wrth adfer y methiant oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.
(5) Pan fo prawf perthnasol wedi'i wneud ar anifail buchol, ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail hwnnw o'r fangre lle y'i cedwir oni bai—
(a) bod y symud hwnnw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan archwiliwr milfeddygol; neu
(b) bod canlyniadau'r prawf wedi'u darllen gan arolygydd, a hynny gyda chanlyniad negyddol.
(6) Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â gweinyddu neu ddarllen prawf perthnasol.
Profion cyn Symud
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i erthyglau 11 a 23, a heb leihau effaith gofynion Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985, ni chaiff person symud anifail buchol o unrhyw fangre oni bai fod prawf croen wedi'i wneud arno ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y symud.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r anifeiliaid canlynol—
(a) anifeiliaid buchol mewn buchesau sy'n ddarostyngedig i gael eu profi'n rheolaidd ar gyfer twbercwlosis yn llai aml nac unwaith bob dwy flynedd;
(b) anifeiliaid buchol sydd o dan 6 wythnos oed ar ddyddiad y symud;
(c) anifeiliaid buchol sydd wedi bod yn bresennol yn y fangre am ddim mwy na 30 diwrnod ar ddyddiad y symud;
(ch) anifeiliaid buchol sy'n ddarostyngedig i brofion blynyddol rheolaidd am y rhesymau canlynol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn unig—
(i) eu bod ar fferm y mae'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ystyried ei bod yn fferm agored;
(ii) eu bod yn rhan o fuches y mae'r Arolygiaeth Hylendid Llaeth wedi'i chymeradwyo ar gyfer gwerthu llaeth buwch crai ar gyfer ei yfed yn syth i'r defnyddiwr terfynol, un ai drwy fanwerthu llaeth potel neu fel rhan o fusnes arlwyo ar y fferm;
(iii) eu bod yn rhan o fuches y defnyddir llaeth buwch crai yn rheolaidd ohoni ar gyfer cynhyrchu caws heb ei basteureiddio neu unrhyw gynhyrchion llaeth eraill heb eu pasteureiddio;
(d) anifeiliaid buchol sydd mewn canolfan gasglu semen wedi'i chymeradwyo.
(3) At ddibenion paragraff (1), dyddiad y prawf yw dyddiad y pigiad gyda thwbercwlin.
(4) At ddibenion paragraff (2) (ch) (i) o'r erthygl hon, ystyr “fferm agored” (“open farm”) yw fferm sy'n agored ar gyfer ymweliadau gan y cyhoedd neu adrannau o'r cyhoedd.
Cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis
10 

(1) Pan fo prawf croen wedi'i wneud ar anifail buchol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cofnod mewn ysgrifen o ganlyniadau'r prawf i geidwad yr anifail hwnnw cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i ganlyniadau'r prawf gael eu darllen gan arolygydd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid y mae eu symud wedi'i wahardd neu'n parhau wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.
(3) Rhaid i geidwad unrhyw anifail y mae paragraff (1) yn gymwys iddo—
(a) cadw cofnod o ganlyniad y prawf am gyfnod o 3 blynedd a 60 diwrnod ar ôl dyddiad y pigiad gyda thwbercwlin; a
(b) dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn hynny.
Symudiadau a Ganiateir
11 
Er gwaethaf erthygl 9, fe ganiateir y symudiadau canlynol—
(a) symudiadau a bennir yn yr Atodlen; a
(b) unrhyw symudiad o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.
Gwaharddiadau
12 

(1) Ni chaiff person frechu anifail buchol yn erbyn twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Ni chaiff person drin anifail buchol ar gyfer twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Ni chaiff person brofi anifail buchol ar gyfer twbercwlosis heblaw gyda chaniatâd ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol, a rhaid i berson y rhoddir y fath ganiatâd iddo adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch canlyniad y prawf cyn gynted ag y gŵyr beth yw'r canlyniad hwnnw.
Gwaharddiadau ar symud anifeiliaid
13 
Heb leihau effaith erthyglau 7(3)(c) ac 8(2), caiff arolygydd, at ddiben rheoli neu rwystro ymlediad twbercwlosis, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad, wahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r anifeiliaid buchol hynny a bennir yn yr hysbysiad, i'r fangre honno neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
Hysbysu ynghylch y bwriad i gigydda anifeiliaid
14 

(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cigydda anifail buchol o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y mae wedi'i chymhwyso i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail yn hysbysu'r ceidwad o'r bwriad i gigydda ac yn mynnu fod y ceidwad yn cadw'r anifail hyd y cyflawnir y cigydda hwnnw (neu hyd nes y caiff ei drosglwyddo a'i symud ar gyfer y cigydda hwnnw) yn y rhan honno o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad ac yn ei ynysu i'r graddau y mae hynny'n ymarferol oddi wrth ba bynnag anifeiliaid eraill a bennir felly.
(2) Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff person symud yr anifail, ac eithrio ar gyfer ei gigydda, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
Rhagofalon rhag lledaenu haint
15 

(1) Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni fod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n adweithydd, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath, ei gwneud yn ofynnol—
(a) bod y ceidwad yn trin ac yn storio tail neu slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(b) na fydd y ceidwad yn gwasgaru unrhyw tail nac yn chwistrellu neu'n gwasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath heblaw yn unol â gofynion yr hysbysiad;
(c) na fydd y ceidwad yn symud unrhyw tail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd;
(ch) bod y ceidwad yn cymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail buchol yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol;
(d) bod y ceidwad yn trefnu ynysu unrhyw anifail neu anifeiliaid buchol sydd wedi'u pennu yn yr hysbysiad mewn unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir;
(dd) bod y ceidwad yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail neu anifeiliaid a bennir;
(e) bod y ceidwad ar ei draul ei hun, ac o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a bennir yn yr hysbysiad, yn glanhau ac yn diheintio pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir;
(f) bod y ceidwad yn glanhau ac yn diheintio pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (1) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill cyfanswm unrhyw dreuliau a ddaeth yn rhesymol i ran y Cynulliad Cenedlaethol wrth adfer y methiant oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.
Anifeiliaid a amheuir mewn marchnadoedd, sioeau ac arwerthiannau
16 
Pan fo arolygydd milfeddygol yn credu'n rhesymol fod anifail buchol mewn unrhyw fangre lle mae sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair yn cael ei gynnal yn anifail yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis neu'n un yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno felly, neu'n un a fu'n agored i gael ei heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd—
(a) drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, ei gwneud yn ofynnol i symud yr anifail hwnnw o'r fangre honno, ac (yn ôl dewis ceidwad yr anifail) ei gymryd—
(i) i ladd-dy i'w gigydda'n syth; neu
(ii) yn ôl i'r fangre y daethpwyd â'r anifail ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu
(iii) i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol ar gyfer y diben;
(b) drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre fynnu—
(i) ei fod yn sicrhau nad yw unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol arall am ba gyfnod bynnag a bennir yn yr hysbysiad;
(ii) ei fod ar ei draul ei hun, ac o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a ddynodir yn yr hysbysiad—(aa) yn glanhau ac yn diheintio pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad;(bb) yn cael gwared ar unrhyw tail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall sydd wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag ef.
(2) Pan symudir anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii) rhaid ei ynysu'n syth ac ni chaniateir ei symud eto heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
Rheoli haint oddi wrth anifeiliaid eraill
17 

(1) Pan fo arolygydd milfeddygol yn credu'n rhesymol fod anifail a gedwir mewn unrhyw fangre wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis neu o bosib wedi'i effeithio arno felly, caiff yr arolygydd drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre honno—
(a) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd gadw'r anifail dan reolaeth yn y fath fodd ag a bennir yn yr hysbysiad neu'n ei gadw o fewn pa bynnag ran o'r fangre a bennir; a
(b) gwahardd symud anifeiliaid i'r fangre honno neu oddi arni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, mae “anifail” (“animal”) yn golygu unrhyw fath o famal heblaw dyn, ond nid anifail buchol.
Marcio anifeiliaid buchol
18 

(1) Os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan arolygydd, rhaid i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir mewn unrhyw fangre farcio'r anifeiliaid hynny yn y modd a ofynnir gan yr arolygydd.
(2) Caiff yr arolygydd farcio anifeiliaid buchol a gedwir mewn unrhyw fangre.
(3) Ni chaiff neb newid neu ymyrryd ag unrhyw farc a roddwyd o dan yr erthygl hon.
Adnabod M. bovis mewn labordy
19 

(1) Pan adnabyddir presenoldeb yr organeb M. bovis drwy archwilio mewn labordy sampl a gymerwyd o unrhyw famal (heblaw dyn) neu o garcas, cynhyrchion neu amgylchoedd unrhyw famal o'r fath, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y labordy hwnnw hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol yn ddi-oed.
(2) Nid yw'r ddyletswydd i hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo M. bovis yn bresennol yn y sampl oherwydd ei osod yno'n fwriadol fel rhan o ymchwil sy'n cynnwys defnyddio'r organeb honno.
Darpariaethau Cyffredinol parthed Hysbysiadau a Thrwyddedau
20 

(1) Rhaid i unrhyw drwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn fod mewn ysgrifen, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, a gellir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau.
(2) Gellir diwygio, atal dros dro neu ddileu trwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad pellach gan arolygydd.
Dangos trwyddedau
21 
Pan symudir anifail buchol o dan awdurdod trwydded (heblaw trwydded gyffredinol) a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn—
(a) rhaid i drwydded fynd gyda'r anifail drwy gydol y symud hwnnw o dan y drwydded; a
(b) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am yr anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded, pan ofynnir hynny gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu cymryd copi ohoni.
Gorfodi
22 

(1) Rhaid gorfodi'r Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ynglŷn ag unrhyw achos penodol, fod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflawni dyletswydd gorfodi a osodwyd ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.
Darpariaethau Trosiannol
23 
Hyd at ac yn cynnwys 28 Chwefror 2007, ni fydd erthygl 9 yn gymwys i anifeiliaid sy'n llai na 15 mis oed ar ddyddiad y symud.
Arbedion
24 
Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd neu drwydded neu ganiatâd a roddwyd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Lloegr a Chymru) 1984 ac sy'n effeithiol ar yr adeg y daw'r Gorchymyn hwn i rym aros mewn grym fel pe bai'n hysbysiad a gyflwynwyd neu'n drwydded neu ganiatâd a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006
ATODLEN
Symudiadau a Ganiateir
Erthygl 11
Caniateir y symudiadau canlynol heb brofion cyn symud:

Symud ar gyfer cigydda
1 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol ar gyfer ei gigydda.
Symud i farchnadoedd cigydda
2 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad o'r hon y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol i'w gigydda.
Symud i unedau pesgi wedi'u heithrio
3 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i heithrio, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol nad ydynt wedi derbyn prawf ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn.
Symud i farchnadoedd wedi'u heithrio
4 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad wedi'i heithrio, sef marchnad sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifail buchol nad ydynt wedi derbyn profion ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn, ar yr amod ei fod un ai'n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r fangre y daeth ohoni, neu'n uniongyrchol i uned besgi a esemptiwyd neu a gymeradwywyd neu'n uniongyrchol i'w gigydda.
Symudiadau i ganolfannau casglu wedi'u cymeradwyo
5 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu wedi'i chymeradwyo, sef canolfan gasglu sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis.
Symud i unedau pesgi wedi'u cymeradwyo
6 
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i chymeradwyo, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis.
Tir comin
7 

(1) Symud anifail buchol rhwng tiroedd dros ba rai y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl tir comin cofrestredig ac—
(a) mangre sydd wedi'i meddiannu gan berchennog neu geidwad yr anifail ac y mae'r hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi; neu
(b) mangre sydd wedi'i meddiannu gan unrhyw berson arall sydd â hawl tir comin cofrestredig dros y tir hwnnw ac y mae'r hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi.
(2) Symud anifail buchol rhwng mangre sydd wedi'i meddiannu gan berchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi, a mangre sydd wedi'i meddiannu gan unrhyw berson arall sydd â hawl tir comin cofrestredig dros y tir hwnnw ac y mae hawl tir comin cofrestredig y person arall hwnnw fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi.
(3) Yn y paragraff hwn, mae “hawl tir comin cofrestredig” (“registered right of common”) yn golygu hawl tir comin a gofrestrwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 neu hawl tir comin sydd wedi'i eithrio o'r fath gofrestru ond sydd wedi'i gofrestru, ei ddynodi, ei gysylltu, neu wedi'i gydnabod, ei barhau neu ei gadw o dan unrhyw un o'r canlynol neu'n unol â hwy: Deddf y Fforest Newydd 1854, 1949, 1964 a 1970, a Deddfau Fforest Epping 1878 a 1880, neu Ddeddf Dinas Llundain (Pwerau Amrywiol) 1977, neu unrhyw hawl neu ganiatâd tebyg a arferir yn Fforest y Ddena.
Symud o fewn grwp meddiannaeth unigol
8 
Symud anifail buchol rhwng mangreoedd sydd mewn grŵp meddiannaeth unigol sydd wedi'i gymeradwyo, a hynny'n set o fangreoedd a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel grŵp meddiannaeth unigol o ganlyniad iddynt gael eu cysylltu yn nhermau eu rheoli.
Symud ar gyfer triniaeth filfeddygol
9 
Symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol ar yr amod ei fod yn cael ei ddychwelyd i'r fangre y daeth ohoni ar ôl y driniaeth neu'i fod yn cael ei ladd neu'n mynd yn uniongyrchol i'w gigydda.
Symud i sioeau amaethyddol
10 
Symud anifail buchol i sioe amaethyddol neu gyfres o sioeau ar yr amod ei fod yn cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r fangre y daeth ohoni ar ôl y sioe neu'r sioeau.