
2006 Rhif 1035 (Cy.105)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006
Wedi 4 Ebrill 2006
Yn dod i rym 5 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) i (6) a (7A), 143(1) a (2), a pharagraff 12 i Atodlen 7A a pharagraffau 1 ac 8 i Atodlen 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd fel sy'n ofynnol gan adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8(3), ar ôl y geiriau “service on him”, rhodder “or her”.
(3) Yn rheoliad 13(3), ar ôl y geiriau “ “supplied to him”, rhodder “or her”.
(4) Yn rheoliad 25(7), yn lle'r geiriau “paragraph 6(a)”, rhodder “paragraph (6)(a)”.
(5) Yn rheoliad 26—
(a) yn lle'r geiriau “a chairman appointed under regulation 8 of the Valuation and Community Charge Tribunals Regulations 1989”, rhodder “a chairperson of the relevant valuation tribunal”; a
(b) yn lle'r gair “chairman's”, rhodder “chairperson's”.
(6) Yn rheoliad 30(1), yn lle'r gair “chairman”, rhodder “chairperson” yn y ddau fan lle y digwydd.
(7) Yn rheoliad 31(4)(a) ar ôl y geiriau “to permit him”, rhodder “or her”.
(8) Yn rheoliad 33(4), yn lle'r geiriau “sent to him”, rhodder “sent to that party”.
(9) Dirymir rheoliad 43(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006