
2005 Rhif 757 (Cy.62)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 15 Mawrth 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004 (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Diwygio is-ddeddfwriaeth
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995 fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 9, hepgorer y geiriau o “the Audit Commission’s consent” hyd at y diwedd, ac yn eu lle rhodder “the consent of—“
 
(a) where the company is under the control of one or more local authorities, all of which are local government bodies in Wales within the meaning of section 12 of the Public Audit (Wales) Act 2004, the Auditor General for Wales;
(b) in any other case, the Audit Commission,to the appointment of that person.”
3 

(1) Diwygir Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 4(2)(c)(v), ar y diwedd, mewnosoder y geiriau “or the Auditor General for Wales”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2005
YR ATODLEN
Deddfiadau sy'n rhoi pwerau a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999
Rhaglith

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 Adran 70(1) a (5) (fel y'i diwygiwyd, yn achos is- adran (5), gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus 2004, adran 66 ac Atodlen 2, paragraffau 10 a 12(1) a (4)).
Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 Adrannau 106(1)(b) a 146(1).