
2005 Rhif 69 (Cy.7)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 18 Ionawr 2005
Yn dod i rym 21 Ionawr 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000
2 
Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 fel a ganlyn.
3 
Yn Atodlen 1—
(a) yn lle paragraff 13 rhodder y canlynol —“
13. 
Os yw'n hysbys,
(a) y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a
(c) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”; a
(b) hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen.
4 
Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 5 rhodder y canlynol —“
5. 
Os yw'n hysbys,
(a) y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a
(c) y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”; a
(b) hepgorer paragraff 6(d) ar “a” o'i flaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2005