
2005 Rhif 68 (Cy.6)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005
Wedi'i wneud 18 Ionawr 2005
Yn dod i rym 21 Ionawr 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a chan gofio am ei amcanion cyffredinol, gyflawni yn briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir iddo drwy hyn ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 21 Ionawr 2005.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2002
2 
Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 fel a ganlyn.
3 
Yn erthygl 2 —
(a) hepgorer y diffiniad o “Deddf 1988”;
(b) yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” rhodder y diffiniad canlynol —“
 mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002;”.
4 
Yn Rhan II o'r Atodlen —
(a) yn lle paragraff 12 rhodder y canlynol —“
12. 
Os yw'n hysbys,
(a) y dyddiad pan ddechreuodd y person yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b) y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a
(c) y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”;
(b) hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen;
(c) ym mharagraff 16(c) ar ôl “person” ychwaneger y geiriau “sydd ym marn y Cyngor yn berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes”;
(ch) ym mharagraff 19 yn lle'r geiriau “gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988” rhodder y geiriau “gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Deddf Addysg 2002”;
(d) yn lle paragraff 22 rhodder y canlynol —“
22. 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Ionawr 2005