
2005 Rhif 665 (Cy.55)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 8 Mawrth 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999, iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno .
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dangosyddion Perfformiad
2 
Y dangosyddion perfformiad a bennir ar gyfer cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, gan gynnwys, pan fo hynny'n briodol, dangosyddion perfformiad o ran swyddogaethau a arferir ganddynt fel awdurdodau gwaredu gwastraff, o ran y swyddogaethau a nodir yn y tabl isod, yw'r dangosyddion perfformiad a roddir yn y tabl hwnnw.

TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddyntGwasanaethau Cymdeithasol
Pob dangosydd yn Atodlen 1
Tai
Pob dangosydd yn Atodlen 2
Addysg
Pob dangosydd yn Atodlen 3
Rheoli Gwastraff
Pob dangosydd yn Atodlen 4
Trafnidiaeth/Priffyrdd
Pob dangosydd yn Atodlen 5
Diogelu'r Cyhoedd
Pob dangosydd yn Atodlen 6
Effeithlonrwydd Ynni
Pob dangosydd yn Atodlen 7
Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Dreth Gyngor
Pob dangosydd yn Atodlen 8
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
ATODLEN 1
DANGOSYDDION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Erthygl 2


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS1 Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd.
NS2 Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd):
(a) y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a
(b) y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd.
NS3 
(a) canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a
(b) ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol.
NS4 Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth.
ATODLEN 2
DANGOSYDDION TAI


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS5 
(a) Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a
(b) cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro.
NS6 Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref.
NS7 Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
NS8 Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol:
(i) unedau o gymorth fel y bo'r angen;
(ii) lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol;
(iii) lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro;
(iv) lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol;
(v) lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a
(vi) gwasanaethau larwm cymunedol.
ATODLEN 3
DANGOSYDDION ADDYSG


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS9 Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
NS10 Nifer a chanran:
(i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a
(ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn amser, heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd.
NS11 Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar ddiwedd Cyfnodd Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS12 Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar diwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon.
NS13 Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer disgyblion 16 oed, mewn amgylcheddau dysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
NS14 
(a) Nifer; a
(b) chanran y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf):
(i) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a
(ii) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.
ATODLEN 4
DANGOSYDDION RHEOLI GWASTRAFF


Rhif y Dangosydd Prif ddangosydd
NS15 
(a) Cyfanswm mewn tunelli; a
(b) chanrany gwastraff trefol
(i) a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a
(ii) a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall.
NS16 
(a) Cyfanswm mewn tunelli; a
(b) chanrany gwastraff trefol pydradwy a anfonir at safleoedd tirlenwi.
ATODLEN 5
DANGOSYDDION CLUDIANT/PRIFFYRDD


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS17 Cyflwr:
(a) prif ffyrdd (dosbarth A); a
(b) ffyrdd dosbarthedig/nad ydynt yn brif ffyrdd.
ATODLEN 6
DANGOSYDDION DIOGELU'R CYHOEDD


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS18 
(a) Nifer y busnesau uchel eu risg sy'n atebol i gael arolygiadau wedi'u rhaglenni neu weithgarwch gorfodi amgen yn ystod y flwyddyn; a
(b) canran y busnesau hyn a oedd yn agored i arolygiad wedi'i raglennu neu weithgarwch gorfodi arall a arolygwyd/a oedd yn destun gweithgarwch gorfodi arall, o ran:
— Safonau Masnach
— Hylendid Bwyd;
— Iechyd Anifeiliaid; ac
— Iechyd a Diogelwch.
ATODLEN 7
DANGOSYDDION EFFEITHLONRWYDD YNNI


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS19 
(a) Canran y newid mewn allyriadau carbon deuocsid yn y stoc cyhoeddus annomestig; a
(b) canran y newid yn y defnydd o ynni ac o allyriadau carbon deuocsid yn y stoc dai.
ATODLEN 8
DANGOSYDDION Y BUDD-DALIADAU TAI A BUDD-DALIADAU'R DRETH GYNGOR


Rhif y dangosydd Prif ddangosydd
NS20 Diogelu'r budd-dal tai:
(a) nifer yr hawlwyr yr ymwelwyd â hwy fesul 1,000 baich achos;
(b) nifer yr ymchwilwyr i dwyll a gyflogwyd fesul 1,000 baich achos;
(c) nifer yr ymchwiliadau i dwyll fesul 1,000 baich achos; ac
(ch) nifer yr erlyniadau a'r sancsiynau fesul 1,000 baich achos.
NS21 Cyflymder y prosesu:
(a) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hawliadau newydd; a
(b) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau o newidiadau mewn amgylchiadau.
NS22 Cywirdeb y prosesu:
(a) canran yr achosion lle'r oedd y swm o fudd-dal a gyfrifwyd i fod yn ddyledus yn gywir ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael adeg gwneud y penderfyniad, a hynny ar gyfer sampl o achosion a wiriwyd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud; a
(b) y ganran o ordaliadau budd-dal tai a adenillwyd.