
2005 Rhif 664 (Cy.54)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005
Wedi'i wneud 8 Mawrth 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori a'r personnau hynny y mae'n ofynnol, gan adran 4(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999, iddo ymgynghori â hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(1)(a) a (2) ac adran 29(1) o'r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) (Dirymu) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dirymu
2 
Dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005