
2005 Rhif 663 (Cy.53)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005
Yn dod i rym 11 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £19.10 yr wythnos.
Dirymu
3 
Drwy hyn, dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005