
2005 Rhif 603 (Cy.51)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004.
Diwygio rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor“
 ystyr “aelod o'r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a sefydlwyd yn unol â rheoliad 23 o'r Rheoliadau hyn”.
(2) Hepgorir y geiriau canlynol o'r diffiniad o “aelod” (“member”): “neu aelod o Fwrdd CIC yn ôl y digwydd”.
Dirymu rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a'i ailddeddfu gyda newidiadau
3 
Dirymir rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a rhoddir y canlynol yn ei le:“
Tymor gwasanaethu'r aelodau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (aelodau sy'n gymwys i'w hailethol), tymor gwasanaethu unrhyw aelod, a benodwyd neu a ailbenodwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, yw rhwng un a phum mlynedd yn ôl yr hyn a bennwyd gan y corff penodi adeg penodi'r aelod hwnnw.
(2) Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli eisoes, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli eisoes yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd.
(3) Pan fydd Cyngor yn cael ei ddiddymu o dan adran 20(A)(2)(b) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd ynrhyw aelod o'r Cyngor a ddiddymwyd yn dod i ben yn union.”
Ychwanegu rheoliad 3A at y Prif Reoliadau
4 
Yn dilyn rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y rheoliad 3A newydd canlynol:“
Tymor gwasanaethu'r aelodau — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005
3A 
Gweddill ei dymor gwasanaethu cyfredol fydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod sydd eisoes wedi'i benodi gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005.”
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau
5 

(1) Dileir y geiriau “baragraff (2) ac i reoliad 9” yn rheoliad 8(1) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y geiriau “baragraffau (2) a (3)” yn eu lle.
(2) Dirymir rheoliad 8(2) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y y canlynol yn ei le:“
(2) Caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor am gyfnod o ddeng mlynedd ar y mwyaf.”
(3) Yn dilyn y rheoliad 8(2) newydd mewnosodir“
(3) Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeng mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2) uchod, caiff pob cyfnod o wasanaeth fel aelod mewn unrhyw Gyngor ei agregu, gan gynnwys gwasanaeth mewn Cyngor y cafodd ei ardal ei newid ac mewn Cyngor sydd wedi'i ddiddymu ond heb fod yn gyfyngedig i'r cyfnod gwasanaeth hwnnw.”
Ychwanegu rheoliad 8A at y Prif Reoliadau.
6 
Yn dilyn rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y canlynol:“
Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol — darpariaethau trosiannol
8A 

(1) Caiff yr aelodau hynny a benodwyd cyn 1 Ebrill 2005, yn unol â rheoliad 3A, fwrw gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol, er y gall hynny olygu y byddant yn treulio mwy na'r uchafswm o ddeng mlynedd a ragnodir yn rheoliad 8 uchod.
(2) Pan fydd yr aelodau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod wedi treulio eu tymor gwasanaethu cyfredol, byddant, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 8.”
Diwygio rheoliad 12 o'r Prif Reoliadau
7 
Yn dilyn y geiriau “i gyd yn aelodau o'r Cynghorau hynny” yn ail linell rheoliad 12(3) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y geiriau canlynol, “ac, os bydd angen, yn swyddogion i'r Cynghorau hynny”.
Diwygio rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau
8 
Yn dilyn rheoliad 23(ch) o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:“
(d) sefydlu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 23A.”
Ychwanegu rheoliad 23A at y Prif Reoliadau
9 
Yn dilyn rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:“
Gweithdrefn Gwynion
23A 

(1) Rhaid i'r Bwrdd wneud darpariaeth ynglyn â thrin ac ystyried cwynion a wneir am y ffordd y mae unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyngor neu'r Bwrdd yn cael ei harfer.
(2) Cyn bod y weithdrefn gwynion a lunnir gan y Bwrdd yn unol â pharagraff (1) uchod yn cael ei gweithredu, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei chymeradwyo'n gyntaf gan y Cynulliad.”
Diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau
10 

(1) Rhoddir “(1)” o flaen y geiriau “Bydd ar Fwrdd CIC” a rhoddir y geiriau “aelodau o'r Bwrdd” yn lle'r gair “aelodau” yn rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau.
(2) Yn dilyn rheoliad 24(1) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y paragraffau newydd canlynol:“
(2) Dim ond aelodau a swyddogion Cynghorau sy'n gymwys i'w penodi yn aelodau o'r Bwrdd.
(3) Bydd tymor gwasanaethu aelod o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd, fel a bennir adeg ei benodi.”
Diwygio Rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau
11 
Ar ôl y gair “aelodau” yn seithfed linell rheoliad 26(1) o'r Prif Reoliadau rhodder y geiriau “o'r Bwrdd”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005