
2005 Rhif 586 (Cy.50)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005
Yn dod i rym 31 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan ei fod hefyd wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu gan awdurdod lleol, i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yn ôl y digwydd;
 ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw unrhyw aderyn o'r rhywogaeth Gallus gallus sy'n cynhyrchu wyau sydd i'w bwyta gan bobl;
 mae “mangreoedd” (“premises”) yn cynnwys tir gydag adeiladau neu hebddynt, ond nid yw'n cynnwys unrhyw le a ddefnyddir fel annedd yn unig;
 ystyr “y Manylebion Technegol” (“the technical specifications”) yw'r manylebion technegol hynny y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn ac sy'n dwyn yr enw “Baseline Study on the Prevalence of Salmonella in Laying Flocks of Gallus gallus in the EU”; ac
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC.
Dethol mangreoedd
3 
Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn gyfrifol am ddethol y mangreoedd sydd i'w samplu, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol.
Pwerau arolygwyr — Mynediad
4 
Os gofynnir i'r arolygydd am ddogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod yr arolygydd fel arolygydd, a bod yr arolygydd yn dangos y ddogfen honno, bydd gan yr arolygydd yr hawl ar bob adeg resymol i fynd i'r mangreoedd samplu, yn unol â'r manylebion technegol, at ddibenion cymryd samplau fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn ac at ddibenion rheoliad 8.
Pwerau arolygwyr — Cyffredinol
5 
At ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn, ac at ddibenion rheoliadau 3 ac 8, caiff arolygydd—
(a) holi unrhyw berson a gofyn i'r person hynny ddarparu unrhyw wybodaeth a dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion, yr ymddengys i'r arolygydd eu bod yn berthnasol, neu'n debygol o fod yn berthnasol;
(b) archwilio, cadw neu gopïo unrhyw gofnodion gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, y maent yn ymddangos i'r arolygydd eu bod yn berthnasol, neu eu bod yn debygol o fod yn berthnasol;
(c) cymryd a chadw y samplau hynny, gan gynnwys samplau o ieir dodwy, carcasau ieir dodwy a deunydd ysgarthol ac amgylcheddol, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol, yn ogystal â phob sampl arall y bydd yr arolygydd yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn;
(ch) mynd â'r cerbydau hynny a'r cyfarpar hwnnw gydag ef neu hi y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
(d) mynd gydag unrhyw berson arall y mae'r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol; ac
(dd) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r person sydd â gofal am y mangreoedd hynny, neu unrhyw gyflogai neu asiant i'r meddiannydd neu i'r person sydd â gofal am y mangreoedd, i ddarparu i'r arolygydd y cymorth, y cydweithrediad, yr wybodaeth a'r ddogfennaeth honno, gan gynnwys cofnodion, boed ar gyfrifiadur neu fel arall, y caiff yr arolygydd ofyn amdanynt yn rhesymol.
Tramgwyddau
6 
Bydd unrhyw berson—
(a) sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) sydd yn methu â chydymffurfio â rheoliad 5(dd) uchod, a hynny heb esgus rhesymol;
(c) sydd yn rhoi unrhyw wybodaeth i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, gan wybod bod yr wybodaeth honno yn anwir neu yn gamarweiniol; neu
(ch) sydd, heb achos rhesymol, yn peidio â darparu dogfennaeth, gan gynnwys cofnodion neu wybodaeth, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, pan fo'r person hwnnw yn gofyn iddo neu iddi wneud hynny;yn euog o dramgwydd.
Cosbau
7 

(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol;
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod neu ei bod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath; neu
(c) yn achos partneriaeth, partner neu berson a oedd yn honni i weithredu felly,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth, yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi
8 

(1) Awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005