
2005 Rhif 558 (Cy.48) (C.24)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005
Wedi'i wneud 8 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
3 
Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion o ran y darpariaethau y maent yn cyfeirio atynt.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005
ATODLEN 1
Erthygl 2

Adrannau 1 i 6 At bob diben.
Adran 7 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.
Adrannau 8 i 11 At bob diben.
Adrannau 13 i 15 At bob diben.
Adrannau 17 i 19 At bob diben.
Is-adrannau (4) i (6) o adran 20 At bob diben.
Is-adrannau (3) a (4) o adran 21 At bob diben.
Adrannau 22 i 38 At bob diben.
Adran 39 At bob diben nad yw eisoes wedi'i chychwyn, ond dim ond o ran y cyfrifon neu'r datganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.
Adrannau 40 i 49 At bob diben.
Adran 50 ac Atodlen 1 At bob diben nad ydynt eisoes wedi'u cychwyn.
Adrannau 51 i 53 At bob diben.
Adrannau 55 i 57 At bob diben.
Rhan 3 At bob diben.
Adran 65 At bob diben.
Adran 66 ac Atodlen 2 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.
Adran 67 At bob diben.
Adrannau 69 i 70 At bob diben.
Adran 72 ac Atodlen 4 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, at bob diben.
ATODLEN 2
Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion
Erthygl 3
Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i godi ffi am archwilio cyfrifon.
1 
Er i adran 7 ac Atodlen 4 ddod i rym, mae adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe na bai'r Ddeddf wedi'i diddymu, i'r graddau y mae'n ymwneud â ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Cynulliad a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.
Rheoliadau cyfrifon ac archwilio
2 

(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys er—
(a) i adran 67 a pharagraffau 35, 36 a 38(3) o Atodlen 2, a
(b) i'r geiriau “or the National Assmebly for Wales” yn adran 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 gael eu diddymu.
(2) Mae pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 27 a 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym, o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.
Deddf y Comisiwn Archwilio 1998: darpariaethau ynghylch adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt
3 
Er i is-adrannau (1) a (2) o adran 69 a pharagraff 38(3) o Atodlen 2 ddod i rym—
(a) mae adran 2 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i barhau i fod yn gymwys i gyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) at ddibenion —
(i) adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno, i'r graddau bod yn ddarpariaeth honno'n cael ei harbed gan is-baragraff (c); a
(ii) adran 18 o'r Ddeddf honno, i'r graddau mae'r adran honno yn cael ei harbed gan is-baragraff (b);
(b) mae adran 18 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym—
(i) i'r graddau y mae'n ymwneud â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005; a
(ii) er mwyn i swyddogaeth archwilydd o dan is-adran (1) o'r adran honno fod yn arferadwy yn unig o ran mater y mae etholwr llywodraeth leol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ei gylch o dan adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno;
(c) mae hawliau etholwr llywodraeth leol o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i ddod gerbron archwilydd ac i gyflwyno gwrthwynebiadau i aros mewn grym i'r graddau —
(i) y mae'r gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw fater y gallai archwilydd gymryd camau yn ei gylch o dan adran 18(1) o'r Ddeddf honno fel y mae wedi'i harbed gan is-baragraff (b);
(ii) mai cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) yw'r cyfrifon dan sylw; a
(iii) yr oedd y cyfrifon dan sylw wedi'u paratoi o ran blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2005.