
2005 Rhif 427 (Cy.44)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 1 Mawrth 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig.
Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau
2 
Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw yn ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
3 
Yn rheoliad 8(2)(a), yn lle “paragraff (1)(d)” rhodder “yn unrhyw is-baragraff o blith is-baragraffau (a), (b) neu (d) o baragraff (1)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005
YR ATODLEN
SYMIAU A AMNEWIDIR YN Y PRIF REOLIADAU


(1) (2) (3) (4)
Darpariaeth yn y prif Reoliadau Y pwnc swm blaenorol swm newydd
Rheoliad 3 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 5.00 £ 4.00
 y pâr £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) £ 5.00 £ 4.00
paragraff (1A)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 5.00 £ 4.00
 y pâr £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1A)(b) ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1A)(b) £ 5.00 £ 4.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 5.00 £ 4.00
Rheoliad 4 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 5.00 £ 4.00
 y pâr £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau a chyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) £ 5.00 £ 4.00
Rheoliad 5 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiried —olaethau GIG —  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig—  
 fesul eitem £ 5.00 £ 4.00
 y pâr £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1)(c) ffi am deits £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1)(d) ffi am gyffuriau a chyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1 £ 5.00 £ 4.00
paragraff (5) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 6.00 £ 4.00
Rheoliad 6 — Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn  
paragraff (1)(a) ffi am hosanau elastig —  
 fesul eitem £ 5.00 £ 4.00
 y pâr £ 10.00 £ 8.00
paragraff (1)(b) ffi am gyffuriau ac am gyfarpar nas pennir ym mharagraff (1)(a) £ 5.00 £ 4.00
paragraff (4) ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn £ 5.00 £ 4.00
Rheoliad 7(1) Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion  
 ffi am gyffuriau £ 5.00 £ 4.00
Rheoliad 10(5) Tystysgrif ragdalu —  
 4 mis £26.16 £20.93
 12 mis £71.83 £57.46