
2005 Rhif 426 (Cy.43)
AER GLÅN, CYMRU
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 1 Mawrth 2005
Yn dod i rym 5 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi'i fodloni y gall y dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn gael eu defnyddio i losgi tanwydd nad yw'n danwydd awdurdodedig a hynny heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 5 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
2 
Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).
Diwygio Gorchymyn cynharach
3 
Yn y cofnod sy'n ymwneud â'r Dunsley Yorkshire Stove yn yr Atodlen i Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) 1999—
(a) yn y golofn o dan y pennawd “Class of fireplace”, ar ôl “Dunsley Yorkshire Stove” rhodder “and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Boiler”; a
(b) yn y golofn o dan y pennawd “Conditions”, ar ôl “bearing the reference A/22160” rhodder “, as amended by the manufacturer’s instructions dated 4 October 2004 bearing the reference D13 with regard to the Stove and Multifuel Stove and the manufacturer’s instructions dated December 2004 bearing the reference GHD/DUN4B/1 with regard to the Multifuel Stove and Boiler”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005
YR ATODLEN
DOSBARTHAU AR LEOEDD TÅN SY'N ESEMPT
Erthygl 2


Dosbarth ar le tân Amodau
Y Dunsley Yorkshire Woodburning Stove a wneir gan Dunsley Heat Limited 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Rhagfyr 2004 a'r cyfeirnod D13W.
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.
Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire 2100 Millennium Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Hearth & Home Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 9 Hydref 2003 a'r cyfeirnod 250-6931B.
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.
Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Yosemite Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 4 Mehefin 2003 a'r cyfeirnod 7004-187.
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 38.1 × 10.16 × 5.08cm.
Yr Home and Hearth Technologies Quadra-Fire Cumberland Gap Freestanding Wood Burning Stove a wneir gan Home and Hearth Technologies, 1445 North Highway, Colville, WA 99114, UDA. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 8 Gorffennaf 2003 a'r cyfeirnod 7006-186.
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sydd wedi'i sychu ac sydd heb ei drin ac sydd heb fod yn fwy na 43.18 × 10.16 × 10.16cm.
Modelau Orchard Ovens: FVR Speciale 80, 100, 110, 110 × 160 a 120; TOP Superiore 100 a 120; GR 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; OT 100, 120, 140, 120 × 160, 140 × 160, 140 × 180 a 180; a'r Valoriani Piccolo; a wneir gan Valoriani o Via Caselli alla Fornace, 213, 50066 Reggello, Firenze, Yr Eidal. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad 25 Hydref 2004 a'r cyfeirnodau:
 Cyfarwyddyd: Model
 OOLInst.1: FVR 80
 OOLInst.2: FVR 100
 OO LInst.3: FVR 110
 OOLInst.4: FVR 120
 OOLInst.5: FVR 110 × 160
 OOLInst.6: TOP 100
 OOLInst.7: TOP 120
 OOLInst.8: GR 100 ac OT 100
 OOLInst.9: GR 120 ac OT 120
 OOLInst.10: GR 140 ac OT 140
 OOLInst.11: GR 120 × 160 ac OT 120 × 160
 OOLInst.12: GR 140 × 160 ac OT 140 × 160
 OOLInst.13: GR 140 × 180 ac OT 140 × 180
 OOLInst.14: GR 180 ac OT 180
 OOLInst.15: Valoriani Piccolo
 
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n bren sych heb ei drin.
Gwresogydd Wood Waste Technology, modelau WT10 ac WT15, a wneir gan Wood Waste Technology. 
1. 
Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dwyn y dyddiad Ionawr 2005 a'r cyfeirnod WT/a/19/1/05 o ran model WT10 neu'r cyfeirnod WT15/a/19/01/05 o ran model WT15.
2. 
Ni chaniateir defnyddio unrhyw danwydd nad yw'n dorbrennau caled neu feddal sydd heb eu trin.