
2005 Rhif 424 (Cy.42)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 1 Mawrth 2005
Yn dod i rym 31 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 75(1) a (2) ac adran 195 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person sy'n darparu gofal iechyd i gorff GIG Cymru, neu sydd wedi gwneud hynny neu a fydd yn gwneud hynny; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
Y pŵer i ofyn am esboniad
2 

(1) Caiff y Cynulliad, neu bersonau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a ragnodwyd ym mharagraff (4) i ddarparu esboniad i'r Cynulliad neu i bersonau a awdurdodwyd felly (yn ôl y digwydd)—
(a) unrhyw ddogfennau, cofnodion neu eitemau a arolygwyd, a gopïwyd neu a ddarparwyd o dan adrannau 72 i 74 o'r Ddeddf;
(b) unrhyw wybodaeth a ddarparwyd o dan yr adrannau hynny; neu
(c) unrhyw faterion sydd yn destun arfer unrhyw un o swyddogaethau'r Cynulliad o dan adran 70 o'r Ddeddf,
mewn amgylchiadau pan fo'r Cynulliad yn ystyried y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf.
(2) Caiff y Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi—
(a) yn bersonol (ac eithrio pan fo'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r esboniad yn gorff neu yn bersonau corfforaethol neu anghorfforaethol); neu
(b) yn ysgrifenedig.
(3) Pan fo'r Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, yn ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi'n bersonol, rhaid rhoi'r esboniad ar adeg ac mewn man a bennir gan y Cynulliad, a rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad rhesymol i'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r esboniad o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.
(4) Dyma'r personau rhagnodedig—
(a) corff GIG Cymru;
(b) cadeirydd, aelod, cyfarwyddwr neu gyflogai o gorff GIG Cymru;
(c) aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor corff GIG Cymru;
(ch) darparwr gwasanaeth;
(d) cadeirydd, cyfarwyddwr neu gyflogai darparwr gwasanaeth;
(dd) person (heblaw am berson a ragnodwyd yn is-baragraff (d)) sydd yn cynorthwyo darparwr gwasanaeth wrth iddo ddarparu gofal iechyd ar gyfer corff GIG Cymru;
(e) awdurdod lleol neu aelod neu swyddog o awdurdod lleol;
(f) maer etholedig awdurdod lleol o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(ff) person (heblaw am berson a ragnodwyd uchod) sydd yn cynorthwyo corff GIG Cymru wrth arfer ei swyddogaethau, neu sydd wedi gwneud hynny neu a fydd yn gwneud hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Mawrth 2005