
2005 Rhif 375 (Cy.36) (C.17)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 21) 2005
Wedi'i wneud 22 Chwefror 2005
A hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 118(5) a (6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae'r Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:—
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 21) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Diwrnodau penodedig
2 

(1) 1 Mawrth 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 61(2)(b) o'r Ddeddf ddod i rym, a hynny'n unig at ddiben arfer y pŵer i wneud rheoliadau ac i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym at y diben hwnnw.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 61 o'r Ddeddf ddod i rym at bob diben i'r graddau nad yw'r adran honno eisoes mewn grym.
Llofnodwyd drwy awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
S. J. Ladyman
Is-Ysgrifennydd Seneddol
Yr Adran Iechyd
22 Chwefror 2005Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Chwefror 2005