
2005 Rhif 371 (Cy.35)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 22 Chwefror 2005
Yn dod i rym 1 Ebrill 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Y personau a'r ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal, neu i fod yn un o'r personau a benodir felly sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sydd i ddechrau ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Y swm dyddiol safonol
3 
Os bydd ymchwiliad cymwys yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, £679 fydd y swm dyddiol safonol a ragnodir gan adran 303A(5) o'r Ddeddf.
Dirymu ac arbed
4 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 wedi'u dirymu, ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hymny yn gymwys iddo ac a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2005 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Chwefror 2005