
2005 Rhif 364 (Cy.31)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 22 Chwefror 2005
Yn dod i rym 1 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd ynddo bellach ac ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac, yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Mawrth 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 ystyr “Cyfarwyddeb 85/591/EEC” (“Directive 85/591/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd y bwriedir i bobl eu bwyta;
 ystyr “Cyfarwyddeb 93/99/EEC” (“Directive 93/99/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC am y math o fesurau ychwanegol sy'n ymwneud â rheoli bwydydd yn swyddogol;
 ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r halogion penodol sydd mewn bwydydd fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/121/EC;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2001/22/EC” (“Directive 2001/22/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a'r 3-MPCD sydd mewn bwydydd fel y'i cywirwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2002/26/EC” (“Directive 2002/26/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r ocratocsin A sydd mewn bwydydd;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2002/69/EC” (“Directive 2002/69/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli deuocsinau yn swyddogol a phenderfynu ar lefelau PCBs fel deuocsinau sydd mewn bwydydd fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 20 Medi 2002 ac a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/44/EC;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2003/78/EC” (“Directive 2003/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/78/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r patwlin sydd mewn bwydydd;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/16/EC” (“Directive 2004/16/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
 ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 o Senedd Ewrop a'r Cyngor;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001, sy'n gosod lefelau uchaf yr halogion penodol mewn bwydydd fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2001, ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2375/2001, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002 fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002 fel y'i cywirwyd drwy gywiriad a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1425/2003, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2174/2003, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 242/2004), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 684/2004); ac
 ystyr “sbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw sbigoglys o'r math a nodir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, ac a dyfir yn y Deyrnas Unedig yn unol â'r amod i Erthygl 3.1 o'r Rheoliad hwnnw a chyda'r bwriad o gael ei fwyta gan bobl yno.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
Tramgwyddau a chosbau
3 
Yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 10 ac 11, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw—
(a) yn gosod unrhyw fwyd ar y farchnad (heblaw am sbigoglys awdurdodedig), a gwmpesir gan Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir ar y cyd ag Erthyglau 1.2 a 4.3 o'r Rheoliad hwnnw, ond nad yw'n bodloni gofynion yr Erthyglau hynny, neu
(b) yn mynd yn groes i Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn; neu
(c) yn fwriadol yn mynd yn groes i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan adran 9(2)(a) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan reoliad 7(2), neu yn methu â chydymffurfio â hwy.
Gorfodi
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd fydd gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le sydd heb ei leoli yn rhanbarth awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd sy'n gweithredu dros yr ardal lle mae'r lle hwnnw.
Addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (caffael samplau) a dadansoddi'r samplau
5 

(1) Wrth ei chymhwyso i samplu unrhyw fwyd a bennir yn adrannau 1 i 6 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, addasir adran 29 o'r Ddeddf i'w gwneud yn ofynnol i weithredu'r pŵer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno yn unol â'r dulliau samplu a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt—
(a) (yn ddarostyngedig i'r gofyniad a bennir yng ngholofn 3 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn), yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC sy'n gosod dulliau samplu'r Gymuned ar gyfer rheoli'n swyddogol weddillion plaleiddiaid mewn cynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac anifeiliaid ac arnynt, ac yn diddymu Cyfarwyddeb 79/700/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(b) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(c) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 3 neu 4 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(ch) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/26/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(d) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 5 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;
(dd) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2003/78/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw; ac
(e) yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2004/16/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn dilyn disgrifiad a bennir yn adran 6 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, y mae'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i'w samplu, yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â—
(i) paragraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) yn achos cnau cyfan, yn unol â pharagraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd—
(i) yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 85/591/EEC i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, a
(ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC fel y'i darllenir ar y cyd â nodiadau'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a
(ii) yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC ac, yn achos paragraff 2, fel y'i darllenir ar y cyd â'r nodyn i'r paragraff hwnnw;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd—
(i) i'r graddau y mae'n ymarferol, yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 85/591/EEC,
(ii) yn achos dadansoddi ar gyfer plwm (ac eithrio mewn gwin), mercwri neu gadmiwm, yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 3.3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC,
(iii) yn achos dadansoddi ar gyfer plwm mewn gwin, yn cydymffurfio ag ail is-baragraff paragraff 3.2 o'r Atodiad hwnnw, a
(iv) yn achos dadansoddi ar gyfer 3-MCPS, yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 3.3.2 o'r Atodiad hwnnw fel y'u darllenir ar y cyd â'r nodyn i'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC;
(ch) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cydymffurfio ag is-baragraff cyntaf ac ail is-baragraff paragraff 3.4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC ac, yn achos yr ail is-baragraff, fel y'i darllenir ar y cyd â'r nodyn i'r is-baragraff hwnnw; a
(d) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, fel y'i darllenir ar y cyd â'r nodyn i'r paragraff hwnnw, a
(ii) yn unol â thrydydd is-baragraff paragraff 3.4 a pharagraff 3.6 o'r Atodiad hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (ch) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi—
(i) sydd yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC, a
(ii) sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC fel y'i darllenir ynghyd â'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II o Gyfarwyddeb 2002/26/EC, a
(ii) yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.
(5) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraff 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, fel y'i darllenir ar y cyd â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad hwnnw;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud —
(i) yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a geir ym mharagraffau 5, 6 a 7 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, fel y'u darllenir ar y cyd â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad hwnnw, a
(ii) gan labordy sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC; ac
(c) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl yn unol â pharagraff 8 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC.
(6) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) o'r paragraff hwnnw, a'i fod yn cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd—
(i) yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC, a
(ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC fel y'i darllenir ynghyd â'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau'r dadansoddiad o'r sampl honno—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC, a
(ii) yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.
(7) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n dilyn y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw, a'i fod wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—
(a) y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1, 2 a 3, a'r adran honno o baragraff 4.6 sy'n dwyn y pennawd “Sample Preparation”, o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC;
(b) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd—
(i) yn cydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/891/EC, a
(ii) yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraffau 4.3 a 4.3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC;
(c) bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddeb 93/99/EEC a'r adran honno o baragraff 4.6 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC sy'n dwyn y pennawd “Internal Quality Control”; ac
(ch) bod yr adroddiad o ganlyniadau dadansoddi'r sampl honno—
(i) yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC, a
(ii) yn cydymffurfio â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.
Amddiffyniad o ran allforion
6 
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o fynd yn groes i reoliad 3, bydd yn amddiffyniad i'r sawl a gyhuddir i brofi bod y bwyd yr honnir y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas ag ef wedi ei fwriadu i gael ei allforio i wlad (heblaw am Aelod-wladwriaeth) sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn, a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.
Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
7 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaeth fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—“
9. 

(1) An authorised officer of a food authority or a port health authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which —
(a) has been placed on the market; or
(b) is in the possession of, or has been deposited with or consigned to, any person for the purpose of placing it on the market,
and subsections (2) to (7) below apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food contravenes regulation 3(a) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2005.
(2) The authorised officer may either —
(a) give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it —
(i) is not to be used for human consumption, and
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out the sampling required by Directive 98/53/EC, Directive 2001/22/EC, Directive 2002/26/EC, Directive 2002/69/EC, Directive 2003/78/EC and Directive 2004/16/EC, as appropriate; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, he or she, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, is to determine whether or not he or she is satisfied that the food complies with the requirements of regulation 3(a) of the above Regulations, as appropriate and —
(a) if he or she is so satisfied, forthwith withdraw the notice;
(b) if he or she is not so satisfied, seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and —
(a) any person who under regulation 3(a) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food is, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, entitled to be heard and to call witnesses; and
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence consisting of a contravention of regulation 3(a) of the above Regulations in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with the requirements of regulation 3(a) of the above Regulations he or she is to condemn the food and order —
(a) the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority or, as the case may be, port health authority, is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) of subsection (2) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”.
(3) “Bydd yr ymadroddion “authorised officer”, “food authority”, “port health authority”, “human consumption”, “placing on the market”, “Directive 98/53/EC”, “Directive 2001/22/EC”, “Directive 2002/26/EC”, “Directive 2002/69/EC”, “Directive 2003/78/EC”, a “Directive 2004/16/EC” a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.”
Ailallforio neu ddinistrio bwyd a fewnforiwyd i Gymru nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
8 

(1) Os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig o awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, fod unrhyw fwyd yn mynd yn groes i reoliad 3(a) a'i fod wedi'i fewnforio i Gymru, ar ôl ymgynghori yn briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo ei fod yn mewnforio'r bwyd, caiff gyflwyno hysbysiad ar y person hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol—
(a) (pan fodlonwyd gofynion Erthygl 12 o Reoliad 178/2002) i ailallforio'r bwyd i wlad heblaw am Aelod-wladwriaeth o fewn y cyfnod rhesymol hwnnw a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b) (pan na fodlonwyd gofynion Erthygl 12 o Reoliad 178/2002) i ddinistrio'r bwyd o fewn y cyfnod rhesymol hwnnw a bennir.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—
(a) bod hawl apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio at lys ynadon, a fydd yn penderfynu pa un a ddylai'r hysbysiad sefyll neu a ddylid ei ddileu.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a gwyliau cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3), bydd y weithdrefn ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu apêl a ddygir o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y bwyd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (6), o ran yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri amodau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau.
(9) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 9.
Triniaeth eilaidd bwyd a fewnforiwyd i Gymru nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
9 

(1) Mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a) sydd o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 4.3a, b a d o Reoliad y Comisiwn; a
(b) y caiff swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â rheoliad 8(1) mewn perthynas ag ef,
caiff y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymgynghori'n briodol gyda pherson y mae'n ymddangos iddo ei fod yn mewnforio bwyd, gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol iddo—
(aa) trin y bwyd dim ond yn unol ag Erthygl 4.3 o Reoliad y Comisiwn; ac
(bb) rhoi'r bwyd ar y farchnad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan—
(a) bod hawl apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl honno.
(3) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio at lys ynadon, a fydd yn penderfynu pa un a ddylai'r hysbysiad sefyll neu a ddylid ei ddileu.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pan gyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3), bydd y weithdrefn ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.
(6) Os bydd y llys yn caniatáu dwyn apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y bwyd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n deillio o'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (6), o ran yr hawl i gael iawndal, neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis neu'r ddau.
Darpariaethau trosiannol
10 
Ni fydd rheoliad 3(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd—
(a) a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon mewn gwladwriaeth AEE cyn 5 Ebrill 2002, ac y mae Erthygl 1.1, 2.1 neu 2.2 o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir ar y cyd ag Erthygl 1.2 o'r Rheoliad hwnnw, yn berthnasol iddo ond sy'n methu â bodloni eu gofynion, a hynny i'r graddau bod y methiant oherwydd rhoi'r bwyd ar y farchnad pan oedd yn cynnwys halogyn a nodir yn adran 3 neu 4 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw, a bod yr halogyn ar lefel uwch na'r lefel a bennir o ran y bwyd hwnnw yn ail golofn yr adran dan sylw; neu
(b) a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon mewn gwladwriaeth AEE cyn 1 Tachwedd 2003, ac y mae Erthygl 1.1, 2.1 neu 2.2 o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir ar y cyd ag Erthygl 1.2 o'r Rheoliad hwnnw, yn berthnasol iddo ond sy'n methu â bodloni eu gofynion, a hynny i'r graddau bod y methiant oherwydd rhoi'r bwyd ar y farchnad pan oedd yn cynnwys patwlin ar lefel uwch na'r lefel a bennir o ran y bwyd hwnnw yn ail golofn adran 2.3 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw.
11 
Ni fydd rheoliad 3(b) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw achos o fynd yn groes i Erthygl 2.3 o Reoliad y Comisiwn, a hynny i'r graddau ei fod oherwydd defnyddio'r canlynol fel cynhwysyn bwyd wrth gynhyrchu bwyd cyfansawdd—
(a) bwyd a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon mewn gwladwriaeth AEE cyn 5 Ebrill 2002 ac sy'n cynnwys halogyn a bennir yn adran 3 neu 4 o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw, a bod yr halogyn ar lefel uwch na'r lefel a bennir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn ail golofn yr adran dan sylw; neu
(b) bwyd a roddwyd ar y farchnad yn gyfreithlon mewn gwladwriaeth AEE cyn 1 Tachwedd 2003 ac sy'n cynnwys patwlin ar lefel uwch na'r lefel a bennir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn ail golofn adran 2.3 o Atodlen I i'r Rheoliad hwnnw.
Diwygiadau canlyniadol
12 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, rhodder y cofnod a ganlyn—“
 The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2005 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with regulation 5 of those Regulations) S.I. 2005/364 (W.31)”.
Dirymu
13 
Dirymir Rheoliadau Tun mewn Bwyd 1992, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, a'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Chwefror 2005