
2005 Rhif 36 (Cy.3)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005
Wedi'i wneud 11 Ionawr 2005
Yn dod i rym 9 Chwefror 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i holl swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac yntau wedi ymgynghori fel yr ymddengys ei bod yn briodol iddo ei wneud yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 a daw i rym ar 9 Chwefror 2005.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
 ystyr “gwladwriaeth berthnasol” (“relevant state”) yw aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein neu'r Swistir;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/48/EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am o leiaf dair blynedd; ac
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005.
Swyddogaethau Ychwanegol
3 

(1) Mae'r Cyngor, ac yntau wedi'i ddynodi yn unol â'r Rheoliadau, i gael swyddogaeth ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.
(2) Mae'r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd am y gofynion i gydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr 2005