
2005 Rhif 35 (Cy.2)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 11 Ionawr 2005
Yn dod i rym 18 Ionawr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A(1) a (2), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 3, ychwaneger y geiriau “, a hynny ar ffurf y gall peiriant ei phrosesu”.
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen—
(a) dileer y gair “a” ar ddiwedd paragraff 1(a);
(b) yn lle paragraff 1(b), rhodder—“
(b) teitl pob gweithgaredd dysgu y mae'r disgybl yn ei astudio; ac
(c) pa un a gafodd y disgybl ei sgrinio i ganfod unrhyw anghenion o ran sgiliau sylfaenol llythrennedd a Rhif edd ar ddechrau ei raglen o weithgareddau dysgu yn y chweched dosbarth ac, os felly, pa un a oedd ei sgiliau sylfaenol mewn perthynas â llythrennedd a Rhif edd—
(i) heb eu hasesu oherwydd ni chanfyddwyd unrhyw anghenion sgiliau sylfaenol wrth i'r disgybl gael ei sgrinio; neu
(ii) wedi'u hasesu, a nodwyd bod sgiliau sylfaenol y disgybl—(aa) yn is na'r lefel mynediad,(bb) ar lefel mynediad 1,(cc) ar lefel mynediad 2,(chch) ar lefel mynediad 3,(dd) ar lefel 1, neu(dddd) yn uwch na lefel 1; neu
(iii) yn anhysbys neu gwrthododd y disgybl i gael ei asesu.”;
(c) ym mharagraff 2, ar ôl y geiriau “Mewn perthynas â”, yn lle'r geiriau “cwrs neu weithgaredd dysgu arall”, rhodder “gweithgaredd dysgu”;
(ch) dileer y gair “ac” ar ddiwedd paragraff 2(d); a
(d) ar ôl paragraff 2(dd), rhodder y paragraff a ganlyn—“
(e) pa un a yw'r disgybl yn parhau i astudio neu a yw wedi cwblhau neu wedi tynnu yn ôl o'r gweithgaredd dysgu; ac
(f) os cwblhaodd neu os tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, y dyddiad y cwblhaodd neu y tynnodd y disgybl yn ôl o'r gweithgaredd dysgu, a pha un a yw'r disgybl wedi dechrau astudio gweithgaredd dysgu newydd.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Ionawr 2005