
2005 Rhif 3363 (C.260) (Cy.143)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(7)(e) o Ddeddf Plant 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(2) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Phlant 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2 
30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn adran 57 o'r Ddeddf i rym (Ffioedd sy'n daladwy i aelodau o banelau adolygu mabwysiadau).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Rhagfyr 2005