
2005 Rhif 3345 (Cy.259)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005
Yn dod i rym 7 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a (143)(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992.
Diwygio Rheoliadau 1992
3 
O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “1.009” rhoddir “1.004”; a
(b) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Rhagfyr 2005
YR ATODLEN
Regulation 3
“
SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES


Billing authority area Prescribed figure
Blaenau Gwent 53,000
Bridgend 101,100
Caerphilly 130,200
Carmarthenshire 139,200
Cardiff 247,700
Ceredigion 63,800
Conwy 88,900
Denbighshire 75,000
Flintshire 116,400
Gwynedd 93,000
Isle of Anglesey 54,000
Merthyr Tydfil 42,200
Monmouthshire 67,800
Neath Port Talbot 106,300
Newport 105,600
Pembrokeshire 91,100
Powys 103,000
Rhondda Cynon Taf 178,800
Swansea 178,600
Torfaen 69,500
Vale of Glamorgan (The) 93,700
Wrexham 101,900”