
2005 Rhif 3296 (Cy.254)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005
Wedi'u gwneud 30 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 1 Ionawr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghoriad agored a thryloyw yn ystod y broses o baratoi'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys—
(a) byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a
(b) Bison bison;
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr y mae “food authority” yn ei ddwyn yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “yr awdurdod gorfodi perthnasol” (“the relevant enforcement authority”) yw'r corff y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
 mae i “bwyd anifeiliaid” a “bwyd i bobl” yr ystyron y mae “animal food” a “human food” yn ôl eu trefn yn eu dwyn yn Rheoliad 999/2001;
 ystyr “cig” (“meat”) yw rhannau bwytadwy anifail buchol gan gynnwys ei waed;
 ystyr “cig ffres” (“fresh meat”) yw cig nad yw wedi mynd drwy unrhyw broses breserfio (ac eithrio oeri, rhewi neu frysrewi) gan gynnwys cig a lapiwyd dan wactod neu a lapiwyd mewn awyrgylch a reolir;
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Penderfyniad 2005/598”, “Rheoliad 999/2001”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad A”, “Rheoliad B”, “Rheoliad C”, “Rheoliad D” a “Rheoliad E” (“Decision 2005/598”, Directive 2004/41”, “Regulation 999/2001”, “Regulation 178/2002”, “Regulation 852/2004”, “Regulation 853/2004”, “Regulation 854/2004”, “Regulation 882/2004”, “Regulation A”, “Regulation B”, “Regulation C”, “Regulation D” and “Regulation E”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;
 dehonglir “cynnyrch cig” yn unol â'r diffiniad o'r term “meat products” ym mhwynt 7.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 ystyr “cynorthwy-ydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw person sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad Rhif 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno, sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth ac sy'n gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol;
 dehonglir “deunydd” a “cynnyrch” yn ôl eu trefn yn unol â'r ystyron y mae “materials” a “products” yn eu dwyn ym Mhenderfyniad 2005/598;
 mae i “gwrteithiau” yr ystyr a roddir i “fertilisers” yn Erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001;
 ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir ar gyfer cigydda a thrin anifeiliaid buchol, y bwriedir defnyddio eu cig ar gyfer ei fwyta gan bobl ac—
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(b) a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995.
 ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi cymhwyso yn unol â Rheoliad 854/2004 i weithredu yn rhinwedd y swyddogaeth honno ac sydd wedi'i benodi gan yr Asiantaeth;
 ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl;
 ystyr “safle torri” yw sefydliad sy'n cael ei ddefnyddio i dynnu esgyrn a/neu dorri cig ffres i'w roi ar y farchnad, fel y diffinnir “cutting plant” yn Erthygl 3.8 o Reoliad 178/2002 ac—
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gymeradwyo'n amodol o dan Erthygl 31.2 o Reoliad 882/2004; neu
(b) a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995;
 mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” yn Erthygl 2.1(c) o Reoliad Rhif 852/2004;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac o ran—
(a) lladd-dy,
(b) safle torri,
(c) sefydliad y mae Pennod I o Adran V o Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gymwys iddo, ac
(ch) sefydliad lle mae cynhyrchion cig yn cael eu cynhyrchu,mae'n cynnwys milfeddyg swyddogol a chynorthwy-ydd swyddogol; ac
 mae i “torri” yr ystyr y mae “cutting up” yn ei ddwyn yn Rheoliad 853/2004.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
Gwaharddiad ar roi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol hŷn
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl unrhyw gynnyrch—
(a) sy'n cynnwys neu'n ymgorffori cynnyrch sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; a
(b) y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990
4 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at “sale or intended sale” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at “placing on the market” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001;
(c) adran 32 (pwerau mynediad);
(ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at “food authority” yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.
Arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt
5 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi perthnasol arolygu ar bob adeg resymol unrhyw gynnyrch sydd wedi'i roi ar y farchnad a bydd paragraffau (2) i (7) yn gymwys pan fo'n ymddangos i'r swyddog awdurdodedig, ar ôl cyflawni'r arolygiad hwnnw neu am unrhyw achos rhesymol arall, fod unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 3 o ran unrhyw gynnyrch.
(2) Caiff y swyddog awdurdodedig naill ai—
(a) rhoi i'r person sydd â gofal dros y cynnyrch hysbysiad sy'n datgan mai hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl, nad yw'r cynnyrch nac unrhyw gyfran benodedig ohono—
(i) i'w roi ar y farchnad ymhellach i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid na gwrteithiau, a
(ii) naill ai i beidio â chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(a) os yw wedi'i fodloni felly, tynnu'r hysbysiad yn ôl ar unwaith; a
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cig i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cig hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(a) bydd gan unrhyw berson a allai fod yn agored o dan reoliad 3 i erlyniad mewn cysylltiad â'r cynnyrch, os bydd y person hwnnw yn dod gerbron yr ynad heddwch y mae'n dod i'w ran i ymdrin â'r cynnyrch, hawl i gael gwrandawiad ac i alw tystion; a
(b) caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(a) i'r cynnyrch gael ei ddistrywio neu ei waredu yn y fath fodd ag i'w atal rhag cael ei roi ymhellach ar y farchnad i'w ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau; a
(b) i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n destun dadl ynglŷn â hawl i gael unrhyw iawndal neu ynglŷn â swm unrhyw iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) gael ei benderfynu drwy gymrodeddu.
Tramgwyddau a chosbau
6 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i reoliad 3 neu'n mynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddir o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gorfodi
7 
Rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gweithredu a'u gorfodi—
(a) mewn lladd-dy neu safle torri sy'n rhoi cig ffres ar y farchnad, gan yr Asiantaeth; a
(b) mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre wedi'i lleoli yn ei ardal.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
8 
Yn lle paragraff (3) o reoliad 3 (ystyr sgil-gynnyrch anifail) o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru rhodder y paragraff canlynol—“
(3) In these Regulations the definition of “animal by-product” includes—
(a) any product subject to the prohibition imposed by regulation 3 of the Bovine Products (Restriction on Placing on the Market) (Wales) (No. 2) Regulations 2005; and
(b) any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002.”.
Dirymu
9 
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad (Cymru) 2005 wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Tachwedd 2005
YR ATODLEN
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL
Rheoliad 2(1)


 Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;
 Ystyr “Penderfyniad 2005/598” (“Decision 2005/598”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001;
 Ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor;
 Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;
 Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;
 Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;
 Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;
 Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E;
 Ystyr “Rheoliad A” (“Regulation A”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;
 Ystyr “Rheoliad B” (“Regulation B”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;
 Ystyr “Rheoliad C” (“Regulation C”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004;
 Ystyr “Rheoliad D” (“Regulation D”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac
 Ystyr “Rheoliad E” (“Regulation E”) yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004.
