
2005 Rhif 3293 (Cy.253)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadu Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 

(1) Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle “(3)”, rhodder “(4)”.
(2) Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl “o dan reoliad 13”, ychwanegir “neu 14”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2005