
2005 Rhif 3288 (Cy.251)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 29 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 6 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2005.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (Cyfalaf sydd i'w ddiystyru)
2 
Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, ar ôl paragraff 27, ychwaneger y paragraff a ganlyn—“
28. 
Any payment made to the resident under regulations made under section 7 of the Age-Related Payments Act 2004 (power to provide future payments).”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2005