
2005 Rhif 3285 (Cy.249) (C.140)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 29 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 199(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2003” yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
Diwrnodau penodedig
2 

(1) O ran Cymru 30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 117 o'r Ddeddf ddod i rym.
(2) 1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod a bennwyd i ddarpariaethau canlynol Deddf 2003 ddod i rym—
(a) adrannau 114(3) a (4) o ran Cymru ac i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adran 116(2); ac
(c) adrannau 107, 114(5), 115(1), (2), (4), (5) a (6) a 116(3) o ran Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Tachwedd 2005