
2005 Rhif 3237 (Cy.242) (C.138)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 22 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004; ac
 ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 25 Tachwedd 2005.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a) Adran 4 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 55, is-adrannau (1), (2) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (5);
(c) adrannau 56 a 57;
(ch) adrannau 79 ac 80, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(d) adran 81;
(dd) adran 179;
(e) adrannau 192 i 194; ac
(f) adran 237.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005