
2005 Rhif 3114 (Cy.234)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adran 9, 11(2) a (3), 140(7) ac (8) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person y tu allan i Ynysoedd Prydain, sy'n cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle mae'r plentyn, neu lle mae'r darpar fabwysiadydd, yn arfer preswylio, ac sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu fel a ddiffinnir gan adran 2(1) o'r Ddeddf neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadu gydag elfen dramor;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
 ystyr “Rheoliadau'r Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005;ac
 ystyr “y Rheoliadau Elfen Dramor” (“the Foreign Element Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005.
Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor
3 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfleusterau yn cael eu darparu gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â—
(a) mabwysiadu plentyn y daethpwyd ag ef i mewn i'r Deyrnas Unedig at y diben o'i fabwysiadu, neu
(b) mabwysiad Confensiwn, mabwysiad tramor neu unrhyw fabwysiad arall sy'n cael ei wneud o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
(3) Y personau y ceir codi ffi arnynt yw—
(a) darpar fabwysiadydd; neu
(b) mabwysiadydd.
(4) Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) cyfleusterau a ddarperir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau'r Asiantaethau i unrhyw berson sy'n dod o fewn rheoliad 3(3) mewn cysylltiad â mabwysiadu plentyn sydd i'w ddwyn i'r Deyrnas Unedig ar gyfer mabwysiad, mabwysiad tramor neu unrhyw fabwysiad a gyflawnir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain ac eithrio:
(i) darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain; a
(ii) darparu gwybodaeth cyn i awdurdod lleol gael cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(b) cyfleusterau sy'n cael eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a osodir ar awdurdod lleol gan y Rheoliadau Elfen Dramor neu'n unol â hwy neu gan y Ddeddf fel y cafodd ei hamrywio neu ei chymhwyso gan y Rheoliadau Elfen Dramor ac eithrio:
(i) cyfleusterau a ddarperir yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
(ii) darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
(iii) darparu gwybodaeth cyn i awdurod lleol gael cais ysgrifenedig am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor;
(iv) darparu gwybodaeth i'r darpar fabwysiadydd, cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd neu ddarparu cwnsela i'r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
(v) cyflwyno adroddiad yn unol â rheoliad 29(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor.
(c) adroddiad a gyflwynir i awdurdod tramor perthnasol pan na fo'r adroddiad yn ofyniad gwneud mabwysiad Confensiwn neu fabwysiad tramor o dan gyfraith gwlad dramor lle mae'r plentyn yn arfer preswylio.
(5) Rhaid i'r ffi—
(a) fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na'r costau a'r treuliau a dynnwyd yn briodol gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau; a
(b) beidio â chynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau a threuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â:
(i) cwynion a wnaed ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Wasanaeth Mabwysiadu'r awdurdod lleol;
(ii) sylwadau a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau'r Asiantaethau; neu
(iii) adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o fewn ystyr adran 12 o'r Ddeddf.
(6) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2005