
2005 Rhif 3052 (Cy.229)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 1 Tachwedd 2005
Yn dod i rym 11 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymghynghori fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mêl (Cymru) (Diwygio) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005.
Diwygiadau i Reoliadau Mêl 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003 yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn Atodlen 1, Nodyn 1, yn lle'r geiriau “a 6” rhodder y geiriau—“
 6 a 7”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Tachwedd 2005