
2005 Rhif 2929 (Cy.214)
Y GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 19 Hydref 2005
Yn dod i rym 25 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 53(2), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 25 Hydref 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Deddf Llywodraeth Leol 2003
2 
Yn adran 83(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, yn lle'r geiriau “fire authorities” rhodder “fire and rescue authorities”.
Rheoliadau Sinematograff (Diogelwch) 1955
3 
Yn rheoliad 5(3) o Reoliadau Sinematograff (Diogelwch) 1955 (rhagofalon tân), ar ôl y geiriau “the fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, employees of the fire and rescue authority”.
Gorchymyn Cefnffyrdd Amrywiol (Gwahardd Aros) (Clirffyrdd) 1963
4 
Yn erthygl 5(b) o Orchymyn Cefnffyrdd Amrywiol (Gwahardd Aros) (Clirffyrdd) 1963 (eithriadau), ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Clybiau Hapchwarae (Trwyddedu) 1969
5 
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Clybiau Hapchwarae (Trwyddedu) 1969 (cais am gael trwydded o dan Ddeddf Hapchwarae 1968), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority” yn y ddau fan lle mae'r geiriau'n digwydd.
Gorchymyn Awdurdodau Lleol etc. (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 3) 1974
6 
Diwygir erthygl 6(6) o Orchymyn Awdurdodau Lleol etc. (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 3) 1974 (gorchmynion prynu gorfodol ), fel a ganlyn—
(a) ar ôl y geiriau “Fire Services Act 1947” mewnosoder “or Fire and Rescue Services Act 2004”; a
(b) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or fire and rescue authority”.
Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyflogaethau Enillwyr a Gyflogir at ddibenion Anafiadau Diwydiannol) 1975
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyflogaethau Enillwyr a Gyflogir at ddibenion Anafiadau Diwydiannol) 1975 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (cyflogaethau sydd i'w trin fel cyflogaethau enillwyr a gyflogir at ddibenion anafiadau diwydiannol), ar ôl y geiriau “Great Britain” mewnosoder “as an employee of a fire and rescue authority employed for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 or”.
(3) Ym mharagraff 4 o golofn (1) o Atodlen 3 (cyflogaethau y mae personau yn cael eu trin fel cyflogwyr at ddibenion anafiadau diwydiannol ynglŷn â hwy), o flaen y geiriau “fire brigade” mewnosoder “fire and rescue authorities,”.
Gorchymyn Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau (Ymchwiliadau yn ôl Disgresiwn) 1975
8 
Ar ôl paragraff 19 o'r Atodlen i Orchymyn Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau (Ymchwiliadau yn ôl Disgresiwn) 1975 (ymchwiliadau a ddynodir at ddibenion Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992), mewnosoder—“
19A. 
Any inquiry held under section 14(3), 17(3) or 27 of the Fire and Rescue Services Act 2004.”.
Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982
9 
Yn rheoliad 16(1)(d) o Reoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982 (eithriadau a llacio), yn lle'r geiriau “a fire brigade or of an ambulance service” rhodder “an ambulance service or as an employee of a fire and rescue authority employed for the purposes of that authority”.
Gorchymyn Esemptio Sylweddau Ymbelydreddol (Dyfeisiadau Golau Tritium Nwyol) 1985
10 
Yn erthygl 3(h) o Orchymyn Esemptio Sylweddau Ymbelydreddol (Dyfeisiadau Golau Tritium Nwyol) 1985 (esemptiad o dan adran 1 yn ddarostyngedig i amodau), ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986
11 

(1) Diwygir Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10B(3)(f) (cerbydau y mae rheoliad 10A yn gymwys iddynt), ar ôl “1947” mewnosoder “or, in England or Wales, a motor vehicle used by employees of a fire and rescue authority for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
(3) Yn rheoliad 10C(7)(d) (ystyr “trailer”), ar ôl “1947” mewnosoder “or, in England or Wales, a trailer used by employees of a fire and rescue authority for the purposes of that authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
(4) Yn y darpariaethau canlynol, ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority” ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—
(a) rheoliad 36B(14)(e) (terfynau cyflymder);
(b) rheoliad 37(5)(a) (offerynnau rhybuddio clywadwy);
(c) rheoliad 82(10)(a) (llwythi llydan);
(ch) rheoliad 101(2)(a) (parcio mewn tywyllwch); a
(d) rheoliad 107(2)(a) (gadael cerbydau modur heb neb i ofalu amdanynt).
Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cadw Hawl i Brynu) 1986
12 
Ym mharagraff 42 o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cadw Hawl i Brynu) 1986 (addasiadau i Ran V o Ddeddf Tai 1985), yn lle'r geiriau “a fire authority for the purposes of the Fire Services Acts 1947 to 1959” rhodder “a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Rheoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987
13 
Yn rheoliad 30 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987 (tanciau storio), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority” yn y ddau le y mae'r geiriau'n digwydd.
Rheoliadau Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1987
14 

(1) Diwygir Rheoliadau Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1987 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(6) (hysbysiadau gan awdurdodau lleol)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (c) dilëer “and”;
(b) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) in relation to England and Wales—
(i) the fire and rescue authority, where the local authority is not the fire and rescue authority; and
(ii) the building authority, where the local authority is not the building authority; and”; ac
(c) yn is-baragraff (d) dilëer y geiriau “Wales and”.
(3) Ym mharagraff 4(a) o'r ffurflen sydd yn yr Atodlen (cais am dystysgrif diogelwch), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or fire and rescue authority”.
Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987
15 
Ar ôl paragraff 7(1)(a) o Atodlen 8 i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion) mewnosoder—“
(aa) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987
16 

(1) Diwygir Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 6(1)(a) o Atodlen 3 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—“
(aa) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
(3) Ar ôl paragraff 3(2)(a) o Atodlen 3A (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—“
(aa) as a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Diogelwch Mannau Chwaraeon 1988
17 

(1) Diwygir Rheoliadau Diogelwch Mannau Chwaraeon 1988 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(8) (hysbysiadau gan awdurdodau lleol)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (c) dilëer “and”;
(b) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(ca) in relation to England and Wales—
(i) the fire and rescue authority, where the local authority is not the fire and rescue authority; and
(ii) the building authority, where the local authority is not the building authority; and”; ac,
(c) yn is-baragraff (d) dileer y geiriau “Wales and”.
(3) Ym mharagraff 4(a) o'r ffurflen sydd yn yr Atodlen (cais am dystysgrif diogelwch), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or fire and rescue authority”.
Gorchymyn Rhagofalon Tân (Ffatrïoedd, Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd) 1989
18 
Yn erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Rhagofalon Tân (Ffatrïoedd, Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd) 1989 (mangreoedd sy'n esempt o'r gofyniad i gael tystysgrif tân) ac erthygl 6(1) (mangreoedd sy'n gymwys i gael esemptiad o'r gofyniad i gael tystysgrif tân) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Rhagofalon Tân (Gorsafoedd Rheilffyrdd o dan yr Wyneb) 1989
19 

(1) Diwygir Rheoliadau Rhagofalon Tân (Gorsafoedd Rheilffyrdd o dan yr Wyneb) 1989 fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “fire brigade” yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, employees of a fire and rescue authority; and “members of a fire brigade” shall be interpreted accordingly”.
(3) Yn rheoliad 12 (esemptiad o ofynion)—
(a) ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, a fire and rescue authority”; a
(b) ym mharagraffau (1A) a (2) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or fire and rescue authority” yn y ddau le y maent yn digwydd.
Rheoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd 1989
20 
Yn y tabl yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd 1989 (dehongliad), ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “emergency vehicle”, ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Sylweddau Peryglus (Hysbysu a Marcio Safleoedd) 1990
21 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus (Hysbysu a Marcio Safleoedd) 1990 (dehongliad), yn y diffiniad o “fire authority”, ar ôl y geiriau “Fire Services Act 1947” mewnosoder “or, in England or Wales, the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the site is situated”.
Rheoliadau Gorchmynion Traffig yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1990
22 

(1) Diwygir Rheoliadau Gorchmynion Traffig yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1990 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “fire authority” rhodder—“
 “fire and rescue authority” in relation to any road or other place, means the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the road or other place is situated;”.
(3) Yn rheoliad 14(1)(a)(ii) (hysbysu gwneud y gorchymyn), yn lle'r geiriau “fire authority” rhodder “fire and rescue authority”.
Rheoliadau Tai (Ffurflenni Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990
23 
Yn ffurflen 35 yn yr Atodlen i Reoliadau Tai (Ffurflenni Rhagnodedig) (Rhif 2) 1990 (gorchymyn cau ar gyfer rhan o dŷ mewn amlfeddiant), yn lle'r geiriau “Fire Authority” rhodder “Fire and Rescue Authority”.
Gorchymyn Twnnel y Sianel (Gwasanaethau Tân, Mewnfudo a Rhwystro Terfysgaeth) 1990
24 
Diwygir erthygl 2 o Orchymyn Twnnel y Sianel (Gwasanaethau Tân, Mewnfudo a Rhwystro Terfysgaeth) 1990 (gwasanaethau tân) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau o “For the purpose of” hyd at “shall have effect” rhodder “For the purpose of enabling functions to be exercised under the Fire and Rescue Services Act 2004 (“the 2004 Act”), including the making of such schemes and arrangements as may be made under sections 13(1), 15(1) and 16(1) of the 2004 Act, that Act shall have effect”;
(b) ym mharagraff (1)(b)(i), yn lle'r geiriau “fire authority within the meaning of the 1947 Act” rhodder “fire and rescue authority under the 2004 Act”;
(c) ym mharagraff (1)(b)(ii), yn lle'r geiriau “members of a brigade maintained by that authority were members of a brigade maintained in pursuance of that Act” rhodder “employees of that authority were employees of a fire and rescue authority”;
(ch) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Where, in connection with the exercise of any functions under the 2004 Act in relation to the tunnel system, an employee of a fire and rescue authority is in transit to or from the tunnel system and is outside the United Kingdom he or she shall be treated as if he or she were an employee of a fire and rescue authority outside its area under section 11(4) of the 2004 Act.”;
(d) ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau “fire authority” rhodder “fire and rescue authority”; ac
(dd) Ym mharagraff (4) yn lle'r geiriau “Section 2(3), (5) and (9) and section 12(2) to (5) of the 1947 Act” rhodder “Section 14(2) and (3) and section 17 of the 2004 Act”.
Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991
25 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 1991 (awdurdodau contractol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) a fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies,”.
Rheoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992
26 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gweithdrefn Traffig Ffyrdd (Cyfyngiadau Dros Dro) 1992 (dehongli), yn y diffiniad o “fire authority”, ar ôl y geiriau “Fire Services Act 1947” mewnosoder “or, in England or Wales, the fire and rescue authority for that area under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Gorchmyn Tai (Hawl i Brynu) (Personau Rhagnodedig) 1992
27 
Yn yr Atodlen i Orchmyn Tai (Hawl i Brynu) (Personau Rhagnodedig) 1992 (sy'n rhagnodi personau penodol at ddibenion adran 130(2)(a) o Ddeddf Tai 1985 a pharagraff 8 o Atodlen 4 iddi), yn lle'r geiriau “a fire authority for the purposes of the Fire Services Acts 1947 to 1959” rhodder “a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Rheoliadau Budd-dâl Treth (Cyffredinol) 1992
28 

(1) Diwygir Rheoliadau Budd-dâl Treth (Cyffredinol) 1992 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 6(1)(a) o Atodlen 3 (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—“
(aa) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
(3) Ar ôl paragraph 3(2)(a) o Atodlen 3A (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—“
(aa) as a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992
29 
Ar ôl paragraff 1(1)(i)(ii) o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig) 1992 (enillion cyflogai sy'n ennill), mewnosoder—“
(iia) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo Gwregysau Diogelwch) 1993
30 
Yn rheoliad 6(1)(f) o Reoliadau Cerbydau Modur (Gwisgo Gwregysau Diogelwch) 1993 (esemptiadau), ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993
31 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993 (awdurdodau contractiol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) a fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies,”.
Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
32 
Ym mharagraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 (gofynion pellach y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy tra bydd y gymeradwyaeth mewn grym)—
(a) yn lle'r geiriau “fire authority” rhodder “fire and rescue authority” yn y ddau le y maent yn digwydd; a
(b) yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau “section 1(1)(f) of the Fire Services Act 1947” rhodder “section 6(2)(b) of the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995
33 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995 (awdurdodau contractiol), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) a fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies,”.
Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995
34 
Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (gofynion ar gyfer caniatáu cymeradwyaeth), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredyddion) 1995
35 
Ym mharagraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 i Reoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredyddion) 1995 (cerbydau esempt), ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority”.
Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996
36 

(1) Diwygir Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (dehongliad o Rannau II, IV a V), yn y diffiniad o “part-time member of a fire brigade” ar ôl y geiriau “Fire Services Acts 1947 — 1959” mewnosoder “or, in England or Wales, a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority”.
(3) Ar ôl rheoliad 53(d)(i) (personau sy'n cael eu trin fel pe na baent wrthi'n gweithio am dâl), mewnosoder—“
(ia) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
(4) Ar ôl paragraff 9(1)(a) o Atodlen 6 (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—“
(aa) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Adeiladu (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1996
37 
Yn rheoliad 33(1) o Reoliadau Adeiladu (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1996 (gorfodi o ran tân), ar ôl y geiriau “Fire Precautions Act 1971” mewnosoder “or, in England or Wales, the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the premises are situated”.
Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996
38 
Yn rheoliad 6 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 (ymgynghori)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “In case (b) the chief officer of the fire brigade of the fire authority” rhodder “In case (b) the fire and rescue authority”;
(b) ym mharagraff (2) yn lle'r diffiniad o “fire authority” rhodder—“
 “fire and rescue authority” means the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the road or place is situated;”.
Rheoliadau Budd-dâl Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 1996
39 
Ar ôl paragraff 9(a) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dâl Nawdd Cymdeithasol (Cyfrifo Enillion) 1996 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo enillion), mewnosoder—“
(aa) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996
40 
Ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2 i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (symiau i'w diystyru wrth benderfynu enillion), yn lle'r geiriau “a part-time fireman in a fire-brigade maintained in pursuance of the Fire Services Acts 1947 to 1959” rhodder “a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority”.
Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn y Gweithle) 1997
41 

(1) Diwygir Rheoliadau Rhagofalon Tân (Yn y Gweithle) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongliad), yn y diffiniad o “fire authority”, ar ôl y geiriau “Fire Services Act 1947” mewnosoder “or, in England or Wales, a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
(3) Yn rheoliad 18—
(a) ym mharagraff (5)—
(i) ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, employee of a fire authority”; a
(ii) ar ôl y geiriau “maintain that brigade” mewnosoder “or who employ that person”.
(b) ym mharagraff (6), ar ôl y geiriau “the Fire Services Act 1947” mewnosoder “or section 28 of the Fire and Rescue Services Act 2004”.
(4) Yn rheoliad 20(b) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, employee of a fire and rescue authority”.
Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Croesfannau Sebra, Pelican a Phâl 1997
42 
Yn y darpariaethau canlynol o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Croesfannau Sebra, Pelican a Phâl 1997, ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority” ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—
(a) rheoliad 12(1)(e) (arwyddocâd signalau golau cerbydau wrth groesfannau Pelican);
(b) rheoliad 13(1)(f) (arwyddocâd signalau golau cerbydau wrth groesfannau Pâl); ac
(c) rheoliadau 21(c) (eithriadau i reoliad 20).
Gorchymyn Awdurdodau Tân Cyfun (Amddiffyniad rhag Atebolrwydd Personol) 1997
43 

(1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Tân Cyfun (Amddiffyniad rhag Atebolrwydd Personol) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—“
Interpretation
2. 
In this Order “combination scheme” means a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.”.
(3) Yn erthygl 3 (amddiffyniad rhag atebolrwydd personol)—
(a) yn lle erthygl 3(1), rhodder—“
(1) This article applies to a fire and rescue authority constituted by a combination scheme.”; a
(b) yn erthygl 3(2), yn lle'r geiriau “fire authority” rhodder “fire and rescue authority”.
Gorchymyn Corff Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu (Cyrff Ychwanegol) 1998
44 
Ym mharagraff 1(j) o erthygl 2 o Orchymyn Corff Technoleg Gwybodaeth yr Heddlu (Cyrff Ychwanegol) 1998 (cyrff y caiff PITO gyflawni gweithgareddau drostynt), ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or fire and rescue authority”.
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998
45 
Yn rheoliad 4(3)(e) o Reoliadau Iechyd a Diogelwch (Awdurdod Gorfodi) 1998 (eithriadau), ar ôl y geiriau “the Fire Precautions Act 1971” mewnosoder “or, in England or Wales, a fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Rheoliadau Awdurdodau Tân Cyfun (Tenantiaethau Diogel) (Cymru) 1998
46 

(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Tân Cyfun (Tenantiaethau Diogel) (Cymru) 1998 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—“
Interpretation
2. 
In these Regulations “combination scheme” means a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.”.
(3) Yn rheoliad 3 (tenantiaethau diogel)—
(a) yn lle rheoliad 3(1), rhodder—“
(1) This regulation applies in relation to a fire and rescue authority constituted by a combination scheme.”; a
(b) yn rheoliad 3(2), yn lle'r geiriau “combined fire authority” rhodder “fire and rescue authority”.
Gorchymyn Strategaethau Troseddu ac Anrhefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998
47 
Yn erthygl 3(2) o Orchymyn Strategaethau Troseddu ac Anrhefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998 , yn lle is-baragraff (v) rhodder—“
 the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for that area;”.
Gorchymyn Deddf Taliad Hwyr ar Ddyledion Masnachol (Llogau) 1998 (Cychwyn Rhif 1) 1998
48 
Yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Taliad Hwyr ar Ddyledion Masnachol (Llogau) 1998 (Cychwyn Rhif 1) 1998 (ystyr “United Kingdom Public Authority”), ar ôl paragraff 1(g) mewnosoder—“
(ga) a fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies;”.
Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999
49 
Yn rheoliad 3(b) o Reoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffyrdd) 1999 (ymgynghori), yn lle'r geiriau “the chief officer of the fire brigade” rhodder “the fire and rescue authority”.
Gorchymyn Taliadau Dileu Swydd (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc.) (Addasiad) 1999
50 
Yn Atodlen 1 i Orchymyn Taliadau Dileu Swydd (Parhad Cyflogaeth mewn Llywodraeth Leol, etc.) (Addasiad) 1999 (cyflogaeth y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddi), ar ôl paragraff 1 o adran 6 mewnosoder—“
1A. 
A fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.”.
Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999
51 

(1) Diwygir Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23(1) (personau a gaiff gynnal profion theori)—
(a) ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau “In Wales, a person appointed by the chief officer of any fire brigade maintained in pursuance of the Fire Services Act 1947 or,”; a
(b) ar ôl paragraff (d), mewnosoder—“
(da) in England or Wales, a person appointed by any fire and rescue authority for the purpose of testing employees of any fire and rescue authority;”.
(3) Yn rheoliad 24(1) (personau a gaiff gynnal profion ymarferol ac unedol)—
(a) ym mharagraff (c), hepgorer y geiriau “In Wales, a person appointed by the chief officer of any fire brigade maintained in pursuance of the Fire Services Act 1947 or,”; a
(b) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—“
(ca) in England or Wales, a person appointed by any fire and rescue authority for the purpose of testing employees of any fire and rescue authority;”.
Gorchymyn Cynlluniau Perfformiad ac Adolygiadau Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) 1999
52 
Yn erthygl 2(b) o Orchymyn Cynlluniau Perfformiad ac Adolygiadau Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) 1999 dileer y geiriau “or (e)” ac “and fire”.
Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr a Gymeradwywyd etc.) 2000
53 

(1) Diwygir Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr a Gymeradwywyd etc.) 2000 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “fire authority” rhodder—“
 “fire and rescue authority” means the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004 for the area in which the premises are or are to be situated;”.
(3) Yn y y ddarpariaeth ganlynol, yn lle'r geiriau “fire authority” substitute “fire and rescue authority” ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—
(a) rheoliad 13 (ymgynghoriad arolygydd a gymeradwywyd â'r awdurdod tân);
(b) Atodlen 2 (ffurflenni);
(c) Atodlen 3 (seiliau dros wrthod hysbysiad cychwynnol etc.);
(ch) Atodlen 4 (seiliau dros wrthod tystysgrif planiau etc.);
(d) Atodlen 6 (seiliau dros wrthod hysbysiad corff cyhoeddus etc.);
(dd) Atodlen 7 (seiliau dros wrthod tystysgrif planiau corff cyhoeddus etc.); a
(e) Atodlen 8 (seiliau dros wrthod tystysgrif gyhoeddus corff cyhoeddus).
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynhaliaeth ac Achosion Arbennig) 2000
54 
Ar ôl paragraff 4(2)(g)(ii) o'r Atodlen i Reoliadau Cynnal Plant (Cyfrifo Cynhaliaeth ac Achosion Arbennig) 2000 (cyfrifo enillion), mewnosoder—“
(iia) a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001
55 
Yn erthygl 2 o Orchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn lle paragraff (ch) rhodder—“
(ch) awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, a”.
Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
56 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 (dehongli)—
(a) yn lle'r diffiniad o “diffoddwr tân” rhodder—“
 ystyr “diffoddwr tân” (“firefighter”) yw diffoddwr tân a gyflogir gan awdurdod tân ac achub”;
(b) yn lle'r diffiniad o “awdurdod tân” rhodder—“
 ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.”
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
57 
Yn rheoliad 1 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 (dehongli) yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.
Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
58 
Yn erthygl 2 o Orchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 (dehongli), yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn lle paragraff (ch) rhodder—“
(ch) awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.”
Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
59 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (dehongli), yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn lle'r geiriau “awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947” rhodder “awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.”
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
60 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001
61 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod), yn lle H2 rhodder—
(a) yn y golofn gyntaf, y geiriau “2 Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004”; a
(b) yn yr ail golofn, y geiriau “Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21)”.
Gorchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol) 2001
62 
Yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswyddau Statudol ) 2001 (cyrff a phersonau eraill y mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb hiliol), ar ôl y cofnod ar gyfer awdurdod tân a ffurfiwyd o dan adran 5 neu 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 mewnosoder—“
 A fire and rescue authority constituted by a scheme under section 2 of the Fire and Rescue Services Act 2004 or a scheme to which section 4 of that Act applies.”.
Gorchmyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001
63 

(1) Diwygir Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 fel a ganlyn:
(2) Yn erthygl 2 (dehongli) yn y diffiniad o “awdurdodau perthnasol” yn lle paragraff (ch) rhodder—“
(ch) awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.”
(3) Yn erthygl 4(1) (darpariaethau i'w datgymhwyso), yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.
(4) Yn nheitl yr Atodlen (cod ymddygiad enghreifftiol), yn lle'r geiriau “AWDURDODAU TÅN ” rhodder “AWDURDODAU TÅN AC ACHUB”.
Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
64 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), yn lle H2 rhodder—
(a) yn y golofn gyntaf, y geiriau “2 Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân (Cymru) sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004”; a
(b) yn yr ail golofn, y geiriau “Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21)”.
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
65 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn lle'r diffiniad o “awdurdod tân” rhodder—“
 ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran cartref gofal, yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;”.
(3) Yn rheoliad 24(4)(dd) (ffitrwydd safleoedd), yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.
Gorchymyn Cynlluniau ac Adolygiadau Perfformiad Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) Diwygiad a Dyddiadau Penodedig 2002
66 
Yn erthygl 2(b) o Orchymyn Cynlluniau ac Adolygiadau Perfformiad Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) Diwygiad a Dyddiadau Penodedig 2002 dilëer y geiriau “or (e)” ac “and fire”.
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
67 
Diwygir Rheoliad 24 o Reoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 (ffitrwydd y safle) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (4)(dd) yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”; a
(b) yn lle paragraff (5) rhodder—“
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân ac achub” o ran sefydliad neu asiantaeth, yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y sefydliad neu'r asiantaeth ynddi.”.
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
68 
Diwygir Rheoliad 31 o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 (rhagofalon tân) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”; a
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod tân ac achub” yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref plant ynddi.”.
Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
69 
Yn lle erthygl 1(2) o Orchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002, rhodder—“
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod Gwerth Gorau yng Nghymru, ac eithrio awdurdodau heddlu.”.
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
70 
Diwygir rheoliad 21 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1)(dd) yn lle'r geiriau “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”; a
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod tân ac achub” yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y fangre berthnasol ynddi.”.
Rheoliadau Deunyddiau Ymbelydreddol (Trafnidiaeth Ffyrdd) 2002
71 
Yn rheoliad 69(2)(a) o Reoliadau Deunyddiau Ymbelydreddol (Trafnidiaeth Ffyrdd) 2002 (dyletswyddau gyrrwyr etc. pe bai argyfwng radiolegol), ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, the fire and rescue authority”.
Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002
72 
Ar ôl paragraff 2(2)(a) o Atodlen VI i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (symiau a ddiystyrir o enillion hawlydd), mewnosoder—“
(aa) as a part-time fire-fighter employed by a fire and rescue authority;”.
Rheoliadau Rheolaeth ar Asbestos yn y Gwaith 2002
73 
Yn rheoliad 3(3)(a) o Reoliadau Rheolaeth ar Asbestos yn y Gwaith 2002 (dyletswyddau o dan y Rheoliadau)—
(a) ar ôl y geiriau “fire authority” mewnosoder “or, in England or Wales, a fire and rescue authority”; a
(b) yn lle'r geiriau “a fire brigade maintained by that authority” rhodder “employees of that authority”.
Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002
74 

(1) Diwygir Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 fel a ganlyn.
(2) Yn y darpariaethau canlynol, ar ôl y geiriau “fire brigade” mewnosoder “or, in England or Wales, fire and rescue authority” ym mhob man lle mae'r geiriau'n digwydd—
(a) rheoliad 15(2) (arwyddocâd arwydd penodol);
(b) rheoliad 26(5)(b) (marciau ffyrdd a welir mewn diagramau penodol);
(c) rheoliad 27(3)(c) (marciau ffyrdd a welir mewn diagram penodol);
(ch) rheoliad 36(1)(b) (arwyddocâd arwyddion golau a ragnodwyd gan reoliadau penodol); a
(d) paragraff 4(1)(a) o Atodlen 19 (arosfa bws a safle bws ar glirffyrdd a chyffyrdd blwch).
Gorchymyn Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad (Gwerth Gorau) Llywodraeth Leol 2003
75 
Dirymir Gorchymyn Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad (Gwerth Gorau) Llywodraeth Leol 2003.
Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
76 
Diwygir rheoliad 22 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 (rhagofalon tân) fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff 1, yn lle'r geiriau “fire authority” rhodder “fire and rescue authority”; a
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod tân ac achub” yw'r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ar gyfer yr ardal y lleolir y ganolfan breswyl i deuluoedd ynddi.”.
Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Data Cyfathrebu) 2003
77 

(1) Diwygir Gorchymyn Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (Data Cyfathrebu) 2003 fel a ganlyn:
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (unigolion mewn awdurdodau cyhoeddus ychwanegol a allai gaffael pob math o gyfathrebu), ar ôl y geiriau “Any fire authority within the meaning of the Fire Services Act 1947 (read with paragraph 2 of Schedule 11 to the Local Government Act 1985)” mewnosoder “or any fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
(3) Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (unigolion yn yr awdurdodau cyhoeddus a bennir yn Rhan 1 a gaiff gaffael mathau penodol yn unig o gyfathrebu), ar ôl y geiriau “Any fire authority within the meaning of the Fire Services Act 1947 (read with paragraph 2 of Schedule 11 to the Local Government Act 1985)” mewnosoder “or any fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004”.
Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003
78 

(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “awdurdod tân” rhodder—“
 ystyr “awdurdod tân ac achub” yw awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004;”.
(3) Ym mharagraff 3(5)(b) o'r Atodlen (safonau ysgol annibynnol), yn lle “Awdurdod Tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.
Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Cyfarpar Gwasgedd Cludadwy 2004
79 

(1) Diwygir Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Cyfarpar Gwasgedd Cludadwy 2004 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “fire authority” mewnosoder—“
 “fire and rescue authority” means the fire and rescue authority under the Fire and Rescue Services Act 2004;”;
(3) Yn rheoliad 6 (cymhwyso i'r lluoedd arfog)—
(a) ym mharagraff (2)(a)(ii)(bb)—
(i) hepgorer y geiriau “the chief fire officer (as respects England and Wales) or”;
(ii) yn lle'r gair “or” ar y diwedd, rhodder “and”; a
(b) ar ôl paragraff (2)(a)(ii)(bb) mewnosoder—“
(cc) the fire and rescue authority (as respects England or Wales) for each area in which the place selected for training is situated; or”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004
80 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “awdurdod tân” rhodder—“
 ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”) yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2005