
2005 Rhif 2840 (Cy.204)
IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU
Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005
Wedi'i wneud 11 Hydref 2005
Yn dod i rym 20 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 14A(1)(b) a (8)(c) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cymhwysedd Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981
2 
Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005