
2005 Rhif 2838 (Cy.202)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005
Yn dod i rym 14 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac sy'n cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol” yw'r ystyr a roddir i “relevant remission question” yn Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,540” ym mhob man y'i gwelir rhodder “£1,575”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£11,935” rhodder “£12,182”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—“

TABLE
(1) (2) (3) (4)
Part of relevant income to which specified percentage applies Only assisted pupil (%) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £12,016 but does not exceed £13,066 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £13,066 but does not exceed £14,133 12 9 7
That part (if any) which exceeds £14,133 but does not exceed £16,247 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £16,247 but does not exceed £19,509 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £19,509 but does not exceed £23,761 24 18 14
That part (if any) which exceeds £23,761 33 24.75 19.25”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005