
2005 Rhif 2837 (Cy.201)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005
Yn dod i rym 14 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(3), (4), (5) a (9) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997 ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Hydref 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r ystyr a roddir i “relevant question” o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 o ran a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “£12,846” rhodder “£13,116”.
(3) Yn lle rheoliad 2(3)(a) a (b) rhodder—“
(a) £81 where the relevant income does not exceed £12,182; and
(b) £42 where that income exceeds £12,182 but does not exceed £13,116.”.
(4) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£11,948” rhodder “£12,195”; a
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “£11,948” rhodder “£12,195”, a
(ii) yn lle “£11,769” rhodder “£12,016”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005