
2005 Rhif 2835 (Cy.200)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005
Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005
Yn dod i rym 25 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 2000/13”, yn lle'r geiriau o “and Commission Directive 2002/67/EC” hyd at y diwedd rhodder y geiriau “Commission Directive 2002/67/EC on the labelling of foodstuffs containing quinine, and of foodstuffs containing caffeine and Commission Directive 2005/26/EC establishing a list of food ingredients or substances provisionally excluded from Annex IIIa of Directive 2000/13/EC”.
4 
Yn rheoliad 13(8)(c) (trefn y rhestr gynhwysion) mewnosoder ar y diwedd y geiriau “other than, until 25 November 2007, ingredients which originate from an allergenic ingredient and are listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient”.
5 
Yn rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “Subject to paragraph (2)” rhodder y geiriau “Subject to paragraphs (2) and (3)”;
(b) ym mharagraff (2)(b) mewnosoder ar y dechrau y geiriau “subject to paragraph (3) of this regulation”;
(c) mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol—“
(3) Paragraphs (1) and (2)(b) of this regulation shall not apply before 25th November 2007 as respects any ingredient which originates from an allergenic ingredient and is listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient.”.
6 
Yn rheoliad 50(12)(b)(iii) (darpariaeth drosiannol) mewnosoder ar ôl y rhif “12” y geiriau “(as read with regulation 5 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2005)”.
7 
Ar ôl Atodlen 2 (dangosiadau o driniaeth) mewnosoder fel Atodlen 2A gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
YR ATODLEN
ATODLEN 2A NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU LABELU BWYD 1996
Rheoliad 7
“
SCHEDULE 2A
LIST OF INGREDIENTS WHICH ORIGINATE FROM ALLERGENIC INGREDIENTS AND IN RESPECT OF WHICH THE ALLERGEN LABELLING REQUIREMENTS DO NOT APPLY
Regulations 13(8)(c) and 34B(3)


Column 1 Column 2
Allergenic ingredientCereals containing gluten Exempt ingredients originating from allergenic ingredientWheat based glucose syrups including dextrose.Wheat based maltodextrins.
Eggs Glucose syrups based on barley.Cereals used in distillates for spirits.Lysozym (produced from egg) used in wine.Albumin (produced from egg) used as fining agent in wine and cider.
Fish Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours.Fish gelatine or Isinglass used as fining agent in beer, cider and wine.
Soybean Fully refined soybean oil and fat.Natural mixed tocopherols (E306), natural D-alpha tocopherol, natural D-alpha tocopherol acetate, natural D-alpha tocopherol succinate from soybean sources.Phytosterols and phytosterol esters derived from vegetable oils obtained from soybean sources.Plant stanol ester produced from vegetable oil sterols from soybean sources.
Milk Whey used in distillates for spirits.Lactitol.Milk (casein) products used as fining agents in cider and wines.
Nuts Nuts used in distillates for spirits.Almonds and walnuts used as flavour in spirits.
Celery Celery leaf and seed oil.Celery seed oleoresin.
Mustard Mustard oil.Mustard seed oil.Mustard seed oleoresin.
Note
”