
2005 Rhif 2689 (Cy.189)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 27 Medi 2005
Yn dod i rym 30 Rhagfyr 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9, 56 i 64, 140(8), 142(1) a (5) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, gyda chymeradwyaeth y Cofrestrydd Cyffredinol a Changhellor y Trysorlys drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
RHAN 1 CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” (“registered adoption support agency”) yw asiantaeth cefnogi mabwysiadu y cofrestrir person mewn perthynas â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “yr awdurdod cofrestru” (“the registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr CAFCASS (“CAFCASS”) yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
 ystyr “gwybodaeth adran 56” (“section 56 information”) yw gwybodaeth a ragnodir gan reoliad 3;
 ystyr “mabwysiadwyr” (“adopters”) yn achos mabwysiadu gan un person yw'r person hwnnw;
 ystyr “perthynas geni” (“birth relative”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn perthyn iddo drwy waed (gan gynnwys hanner gwaed) neu drwy briodas;
 ystyr “rhiant geni” (“birth parent”) mewn perthynas â pherson mabwysiedig yw person a fyddai, oni bai am y mabwysiadu, yn rhiant iddo;
 ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005.
 mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004.
RHAN 2 CADW GWYBODAETH GAN ASIANTAETHAU MABWYSIADU
Gwybodaeth sydd i'w chadw am fabwysiad person
3 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn rhagnodi, at ddibenion adran 56 o'r Ddeddf, yr wybodaeth y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu ei chadw mewn perthynas â pherson a fabwysiedir ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005 (ac y cyfeirir ati yn y Ddeddf ac yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth adran 56”).
(2) Pan wneir gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ar ôl 30 Rhagfyr 2005 rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—
(a) a leolodd y person i'w fabwysiadu; neu
(b) y trosglwyddwyd y cofnodion achos mewn perthynas â'r person mabwysiedig iddi,
barhau i gadw'r cofnod achos a luniwyd mewn perthynas â'r person mabwysiedig o dan reoliad12 o'r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu neu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983.
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hefyd gadw —
(a) unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y rhiant geni neu berthynas geni arall am y person mabwysiedig, neu gan berson arwyddocaol arall ym mywyd y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y gall y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;
(b) unrhyw wybodaeth a roddwyd gan ofalydd maeth blaenorol y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y caiff y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;
(c) unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y mabwysiadwyr neu bersonau eraill sy'n berthnasol i faterion sy'n codi ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud;
(ch) unrhyw wybodaeth y gofynnodd y person a fabwysiadwyd iddi gael ei chadw;
(d) unrhyw wybodaeth a roddwyd i asiantaeth mewn perthynas â pherson mabwysiedig gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan adran 79(5) o'r Ddeddf (gwybodaeth a fyddai'n galluogi person mabwysiedig i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni);
(dd) unrhyw wybodaeth a ddatgelwyd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch cofnod sy'n ymwneud â'r person mabwysiedig yn y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;
(e) unrhyw wybodaeth y mae angen ei chofnodi yn unol â rheoliad 9, 10, 13 neu 16;
(f) cofnod o unrhyw gytundeb o dan reoliad 10.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ar bapur neu gofnodion electronig a ffotograffau.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod o unrhyw wrthrychau a chofroddion nas cedwir am nad yw'n rhesymol ymarferol i'w storio.
Storio a dull cadw gwybodaeth adran 56
4 
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod gwybodaeth adran 56 mewn perthynas â mabwysiad person yn cael ei chadw o dan amodau diogel bob amser ac yn benodol bod pob cam priodol yn cael ei gymryd i rwystro lladrad, datgelu nas awdurdodwyd, difrod, colled neu ddifa.
Cadw gwybodaeth adran 56
5 
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw gwybodaeth adran 56 mewn perthynas â mabwysiad person am o leiaf 100 mlynedd ar ôl dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.
Trosglwyddo gwybodaeth adran 56
6 

(1) Os bydd cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bodoli, rhaid iddi drosglwyddo unrhyw wybodaeth adran 56 y mae'n ei dal mewn perthynas â mabwysiadu person—
(a) i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl iddi'n gyntaf gael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath;
(b) i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu
(c) yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd.
(2) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n trosglwyddo ei chofnodion i asiantaeth fabwysiadu arall yn rhinwedd paragraff (1), os oedd ei gweithgareddau pennaf yn ardal awdurdod lleol unigol, hysbysu'r awdurdod hwnnw yn ysgrifenedig o'r trosglwyddiad.
(3) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion iddi yn rhinwedd paragraff (1), hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o drosglwyddiad o'r fath.
RHAN 3 DATGELU GWYBODAETH — CYFFREDINOL
Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion swyddogaethau asiantaeth
7 

(1) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir fel y gwêl orau at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.
(2) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i'r asiantaeth fabwysiadu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf.
(3) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth at ddibenion ymchwil.
Datgelu gwybodaeth adran 56 at ddibenion ymholiadau, archwiliadau etc.
8 
Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) yn ôl y gofyn—
(a) i'r rheini sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 17 o'r Ddeddf neu adran 81 o Ddeddf Plant 1989 neu adran i o Ddeddf Ymchwiliadau 2005 at ddibenion ymchwiliad o'r fath;
(b) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Gomisiynydd Plant Cymru at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;
(c) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(ch) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (ymchwiliadau a datgelu), i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ddibenion ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;
(d) i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);
(dd) i banel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf i ystyried penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â datgelu gwybodaeth adran 56;
(e) i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;
(f) i lys sydd â'r pŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.
Gofynion sy'n ymwneud â datgelu
9 
Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad a wnaed o dan reoliad 7 neu 8, a rhaid iddo gynnwys —
(a) disgrifiad o'r wybodaeth a ddatgelir;
(b) y dyddiad y datgelir yr wybodaeth;
(c) y person y datgelir yr wybodaeth iddo;
(ch) y rheswm dros y datgeliad.
Cytundebau ar gyfer datgelu gwybodaeth a ddiogelir
10 

(1) Cytundeb rhagnodedig at ddibenion adran 57(5) o'r Ddeddf —
(a) yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a pherson 18 oed neu drosodd ar yr adeg y gwneir y cytundeb o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdano; neu
(b) yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a phob un o'r personau canlynol o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdanynt neu am y person mabwysiedig—
(i) rhiant mabwysiol y person mabwysiedig neu yn achos mabwysiadu gan gwpl, dau riant mabwysiol y person mabwysiedig;
(ii) pob person a oedd, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneund, yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant am y person mabwysiedig.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gytundeb o'r fath a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys —
(a) enwau llawn a llofnodion y personau sydd yn bartïon;
(b) y dyddiad pan gaiff ei wneud;
(c) y rhesymau dros ei wneud;
(ch) yr wybodaeth y ceir ei datgelu yn unol â'r cytundeb;
(d) unrhyw gyfyngiadau y cytunir arnynt ynghylch yr amgylchiadau pan geir datgelu gwybodaeth.
RHAN 4 DATGELU GWYBODAETH A DDIOGELIR O DAN ADRANNAU 61 A 62
Dull gwneud cais
11 
Rhaid i gais i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf fod yn gais ysgrifenedig a rhaid datgan y rhesymau dros wneud y cais.
Dyletswyddau asiantaeth wrth dderbyn cais
12 
Pan geir cais i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf rhaid i asiantaeth fabwysiadu gymryd pob cam rhesymol i —
(a) cadarnhau pwy yw'r ceisydd ac unrhyw berson sy'n gweithredu ar ei ran; a
(b) cadarnhau bod unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y ceisydd wedi cael ei awdurdodi i wneud hynny; ac
(c) sicrhau bod ganddi ddigon o wybodaeth oddi wrth y ceisydd am y rhesymau dros y cais i alluogi'r asiantaeth i gyflawni ei swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf (yn ôl y digwydd).
Cofnodion o sylwadau
13 
Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod unrhyw sylwadau a geir o dan adrannau 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig.
RHAN 5 CWNSELA
Gwybodaeth bod cwnsela ar gael
14 

(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynghylch argaeledd cwnsela i unrhyw berson —
(a) sy'n holi am wybodaeth o dan adrannau 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf;
(b) yr holwyd am eu sylwadau o ran datgelu gwybodaeth amdanynt o dan adran 61(3) neu 62(3) neu (4) o'r Ddeddf;
(c) sy'n ymrwymo, neu'n ystyried ymrwymo, mewn cytundeb â'r asiantaeth o dan reoliad 10.
(2) Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys gwybodaeth am y ffioedd y gellir eu codi gan bersonau sy'n darparu cwnsela.
Dyletswydd i sicrhau cwnsela
15 

(1) Os bydd person a grybwyllir yn rheoliad 14(1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu ar ei gyfer, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu i sicrhau cwnsela ar gyfer y person hwnnw.
(2) Caiff yr asiantaeth ddarparu cwnsela ei hun neu drefnu ag unrhyw rai o'r personau canlynol i ddarparu cwnsela—
(a) os yw'r person yng Nghymru neu Loegr, asiantaeth fabwysiadu arall neu asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig;
(b) os yw'r person yn yr Alban, asiantaeth fabwysiadu yn yr Alban;
(c) os yw'r person yng Ngogledd Iwerddon, cymdeithas fabwysiadu sydd wedi'i chofrestru o dan Erthygl 4 o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987 neu unrhyw Fwrdd; neu
(ch) os yw'r person y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw berson neu gorff y tua allan i'r Deyrnas Unedig y mae'n ymddangos i'r asiantaeth ei fod yn cyfateb yn ei swyddogaethau i gorff a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(3) Yn y rheoliad hwn —
 ystyr “asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig” yw asiantaeth cefnogi mabwysiadu y cofrestrir person mewn perthynas â hi o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.
 ystyr “Bwrdd” yw Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd gan o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 neu os yw swyddogaethau Bwrdd yn arferadwy gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ymddiriedolaeth honno;
Datgelu gwybodaeth at ddibenion cwnsela
16 

(1) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir), y mae ei hangen at ddibenion darparu cwnsela i unrhyw berson y gwnaeth drefniadau ag ef i ddarparu cwnsela.
(2) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgelu a wneir yn rhinwedd y rheoliad hwn.
RHAN 6 Y COFRESTRYDD CYFFREDINOL
Holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol
17 

(1) Os bydd —
(a) person mabwysiedig sydd wedi cael ei 18 oed yn gofyn am wybodaeth gan asiantaeth fabwysiadu o dan adran 60(2)(a) o'r Ddeddf, a fyddai'n ei alluogi i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni; a
(b) nad yw'r wybodaeth honno gan yr asiantaeth,
rhaid i'r asiantaeth holi am yr wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol.
(2) Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn holi am wybodaeth gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan baragraff (1), rhaid i'r asiantaeth roi'r wybodaeth ganlynol iddo yn ysgrifenedig, i'r graddau y mae'n hysbys—
(a) enw, dyddiad geni a gwlad enedigol y person mabwysiedig;
(b) enw tad neu fam mabwysiol y person hwnnw;
(c) dyddiad y gorchymyn mabwysiadu.
Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol i ddatgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r asiantaeth fabwysiadu briodol a'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu
18 

(1) Rhaid i'r Cofrestrydd Cyffredinol —
(a) datgelu i unrhyw berson (gan gynnwys person mabwysiedig) unrhyw wybodaeth y mae'n gofyn amdani y mae ei hangen arno i'w gynorthwyo i gysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu sef yr asiantaeth fabwysiadu briodol yn achos y person a bennir yn y gofyniad (neu, yn ôl y digwydd, yn achos y ceisydd); a
(b) datgelu i'r asiantaeth fabwysiadu briodol unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan yr asiantaeth o ran cais o dan adran 60, 61 neu 62 o'r Ddeddf, ynghylch unrhyw gofnod sy'n ymwneud â pherson mabwysiedig ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dalu unrhyw ffi y dyfarna'r Cofrestrydd Cyffredinol ei bod yn rhesymol ar gyfer datgelu gwybodaeth o dan baragraff (1)(b).
(3) Yn y rheoliad hwn mae i “asiantaeth fabwysiadu briodol” yr ystyr a roddir i “appropriate adoption agency” gan adran 65(1) o'r Ddeddf.
RHAN 7 AMRYWIOL
Tramgwydd
19 
Mae cymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i adran 57 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddatgelu etc. gwybodaeth) yn euog o dramgwydd y gellir ei gosbi ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Ffioedd a godir gan asiantaethau mabwysiadu
20 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff asiantaeth fabwysiadu godi ffi sydd yn ei barn yn ffi resymol —
(a) o ran datgelu gwybodaeth o dan adrannau 61 neu 62 o'r Ddeddf;
(b) am ddarparu cwnsela mewn cysylltiad â datgelu gwybodaeth o dan yr adrannau hynny; neu
(c) am wneud trefniadau i sicrhau cwnsela yn unol â rheoliad 16 pan ddarperir y cwnsela gan berson y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
(2) Ni fydd ffi'n daladwy gan berson mabwysiedig o ran unrhyw wybodaeth a ddatgelir iddo o dan adran 60, 61 neu 62 ynghylch unrhyw berthynas iddo neu am unrhyw gwnsela a ddarperir iddo mewn cysylltiad ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.
(3) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu, cyn iddi ddarparu gwasanaeth i unrhyw berson y caiff godi ffi amdano o dan y rheoliad hwn, roi gwybodaeth i'r person am ei ffioedd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Medi 2005