
2005 Rhif 259 (Cy.25)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005
Yn dod i rym 1 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
O ran y Rheoliadau hyn—
(a) eu henw yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005;
(b) deuant i rym ar 1 Mawrth 2005; ac
(c) maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2 
Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.
3 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2002/82/EC”, rhodder y geiriau a ganlyn—“
 , Commission Directive 2002/82/EC Commission Directive 2003/95/EC and Commission Directive 2004/45/EC”.
4 
Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1D), mewnosoder y paragraff a ganlyn—“
(1E) In any proceedings for an offence in contravention of regulation 3(1) where it is alleged that a food additive failed to satisfy the purity criteria for that additive, it shall be a defence for the accused to show either—
(a) that the food additive concerned is E431-E436, or polyethylene glycol 6000 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 November 2004; or
(b) that the food additive concerned is E407, E407a, E1517 or E1519 and the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 April 2005;
and that that matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made to them by regulation 3 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2005 had not been in force when that matter occurred.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Chwefror 2005