
2005 Rhif 257 (Cy.23)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005
Yn dod i rym 10 Chwefror 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2005.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 wedi'u diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —
(a) yn lle'r diffiniad o “Penderfyniad y Comisiwn” rhoddir y diffiniad canlynol —
 ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/85/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu sydd wedi'u traddodi oddi yno;”; a
(b) yn lle'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 98/53/EC” rhoddir y diffiniad canlynol —“
 ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n pennu'r dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol ar lefelau halogion penodol mewn bwydydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/43/EC;”;
(3) Yn lle paragraff (1) o reoliad 3 (gwahardd mewnforio), rhoddir y paragraff canlynol —“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai —
(a) bod yr amodau a bennir yn Erthygl 1.1, 3, 5 ac (i'r graddau y mae'n yn gymwys yn y man mewnforio) 7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi'u bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny; a
(b) bod y costau, sy'n deillio o'r samplu, y dadansoddi a'r storio ac o ddyroddi'r dogfennau swyddogol sy'n mynd gyda'r cnau pistasio hynny a chopïau o dystysgrifau iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda'r tystysgrifau hynny yn unol ag Erthygl 1.4 i 7 o Benderfyniad y Comisiwn, wedi'u talu.”.
(4) Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 (gorfodi), rhoddir y paragraff canlynol —“
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn —
(a) Erthygl 1.4 o Benderfyniad y Comisiwn (sy'n ymwneud â gwirio'r dogfennau sy'n berthnasol i lwythi o gnau pistasio Iranaidd);
(b) Erthygl 1.5 ac 1.6 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud â samplu a dadansoddi'r llwythi hynny), ac eithrio'r gofyniad o dan Erthygl 1.5 i roi gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn; ac
(c) Erthygl 1.7 o'r Penderfyniad hwnnw (sy'n ymwneud ag achosion o hollti llwythi).”.
(5) Yn lle rheoliad 6 (ailanfon neu ddinistrio mewnforion anghyfreithlon), rhoddir y rheoliad canlynol —“
6. 

(1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i baragraff (1) neu (2) o reoliad 3, wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, caiff gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n gorchymyn —
(a) ailanfon y cnau pistasio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad os yw'r holl gostau, sy'n gysylltiedig â'r mesurau swyddogol a gymerwyd mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny ac sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad hwnnw, wedi'u talu; neu
(b) os —
(i) byddai'r ailanfon hwnnw yn ei farn ef yn creu peryglon difrifol i iechyd pobl, neu
(ii) nad yw'r costau hynny wedi'u talu,
dinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) ac nad yw'r cnau pistasio o dan sylw wedi'u hailanfon y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd y cyflwynwyd yr hysbysiad gan ei swyddog awdurdodedig ef, ar ôl ymgynghori'n briodol â'r person y mae'n ymddangos iddo mai ef yw mewnforiwr y cnau pistasio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddinistrio'r cnau pistasio o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Mae hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) i nodi:
(a) hawl i apelio i lys ynadon; a
(b) y cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl.
(4) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) neu (2) apelio i lys ynadon, a fydd yn penderfynu a ddylid cadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.
(5) Chwe diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio Sadyrnau, Suliau a gwyliau cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (4) ac, at ddibenion y paragraff hwn, bernir bod gwneud yr achwyniad yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(6) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (4), mae'r weithdrefn i fod ar ffurf achwyniad er mwyn cael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achos.
(7) Os bydd y llys yn caniatáu apêl a ddygir o dan baragraff (4), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n deillio o'r camau a gymerir gan y swyddog awdurdodedig.
(8) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch o dan baragraff (7), o ran yr hawl i gael iawndal neu swm unrhyw iawndal sy'n daladwy, drwy gymrodeddu.
(9) Bydd unrhyw berson sy'n torri amodau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (2) yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 8 Chwefror 2005
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
