
2005 Rhif 2291 (Cy.170)
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005
Wedi'i wneud 16 Awst 2005
Yn dod i rym 1 Medi 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a phob pŵer galluogi arall:—
1 
Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym.
2 
Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3 
Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.
4 
Yn y Gorchymyn hwn:—
(a) mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(b) ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470).
 ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 6 wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005” ei lofnodi ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'i adneuo yn Ystorfa Cofnodion ac Uned Ailafael Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwynt Neptune, Ocean Way, Caerdydd;
5 
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.
S. C. Shouler
Cyfarwyddwr, Polisi Trafnidiaeth a Gweinyddu
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyddiedig 16 Awst 2005
ATODLEN 1
LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Llwybr sydd wedi'i leoli rhwng Blaenau Ffestiniog yn Sir Gwynedd a Chancoed ym Mwrdeistref Sirol Conwy, tua 0.212 km o hyd, gan ddechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 38 metr i'r dwyrain o'r eiddo a adweinir fel Tŷ Mawr (a Tal y Waenydd House) ac yna yn mynd tua'r gogledd hyd at bwynt rhyw 38 metr i'r gogledd o'r eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.

ATODLEN 2
DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 19 metr i'r de-ddwyrain o gornel dde-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 1 Rhesdai Oakeley ac yna'n mynd tua'r gogledd-ddwyrain am tua 0.14 kilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol tua 19 metr i'r gogledd o gornel ogledd-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.
