
2005 Rhif 1913 (Cy.156)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd, o ran rheoli a rheoleiddio gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) (Diwygio) 2005, deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) Yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” rhodder y diffiniad a ganlyn—
 “ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1830/2003;”; a
(b) Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle pridol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “bwyd a addaswyd yn enetig” (“genetically modified food”) yw—
(a) bwyd sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu fwyd sydd wedi'i wneud o organeddau a addaswyd yn enetig;
(b) bwyd a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a gynhyrchwyd o organeddau a addaswyd yn enetig; neu
(c) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd;”;
 “ystyr “bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig” (“genetically modified feed”) yw—
(a) bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig, neu sydd wedi'i wneud ohonynt neu sydd wedi'i gynhyrchu ohonynt; neu
(b) organeddau a addaswyd yn enetig i'w defnyddio yn fwyd anifeiliaid;
 “ystyr “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” (“the Food and Feed Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig.
(3) Yn rheoliad 16—
(a) Ym mharagraff (a), rhodder y geiriau “ac yn unol â'r cyfyngiadau a'r amodau y mae defnydd y cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt” ar ôl y geiriau “ar ei gyfer”;
(b) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (dd)—“
(dd) lle mae bwyd newydd a addaswyd yn enetig neu gynhwysyn bwyd newydd a addaswyd yn enetig o fewn cwmpas Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 258/75, fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid a Rheoliad y Cyngor 1882/2003, yn cael ei farchnata; a”; ac
(c) Rhodder y paragraff canlynol ar ôl paragraff (dd)—“
(e) lle mae bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig neu a awdurdodwyd o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn cael ei farchnata.”.
(4) Mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 18—“Mesurau trosiannol ar gyfer presenoldeb damweiniol neu dechnegol anochel deunydd a addaswyd yn enetig sydd wedi elwa o werthusiad risg ffafriol
18A. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd marchnata olion o organedd a addaswyd yn enetig neu gyfuniad o organeddau a addaswyd yn enetig mewn cynhyrchion y bwriedir ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol yn fwyd neu'n fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu yn esempt rhag gofynion adran 108(1)(a) o'r Ddeddf (cynnal asesiad risg) ac adran 111(1)(a) o'r Ddeddf (cael cydsyniad) cyhyd ag y bodlonir yr amodau a osodir yn erthygl 47 o'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.
(2) Bydd paragraff (1) yn peidio â bod yn effeithiol ar 18 Ebrill 2007.”.
(5) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 22—“
(2) rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi na gwrthod cydsyniad i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliadau 21(b) ac (dd) uchod ac, os daw unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21(dd) i law cyn pen y cyfnod hwnnw, cyn iddo ystyried y sylwadau hynny.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005