
2005 Rhif 1911 (Cy.154) (C.83)
ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU A LLOEGR
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005
Wedi'i wneud 12 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 73 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 3) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2005
2 
Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym at bob diben ar 20 Gorffennaf 2005.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005
YR ATODLEN
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2005
Erthygl 2


 Is-adrannau (1) i (5) o adran 54.
 Adran 54A.
