
2005 Rhif 1910 (Cy.153)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 12 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym 14 Gorffennaf 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 21(3) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002;
 ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —
(a) o ran ysgol a gynhelir â chyllideb ddirprwyedig, corff llywodraethu'r ysgol, a
(b) o ran ysgol a gynhelir heb gyllideb ddirprwyedig, yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;
 ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw'r ddogfen sy'n cynnwys darpariaethau o ran amodau statudol cyflogaeth athrawon ysgol yng Nghymru a Lloegr (Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, sydd mewn grym o dro i dro) a'r canllawiau sydd gyda hwy a baratowyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau, fel y maent yn effeithiol ar y dyddiad y mae'r corff perthnasol yn cyflawni ei adolygiad yn unol â'r Rheoliadau hyn;
 ystyr “staff cymorth” (“support staff”) yw unrhyw aelod staff ysgol heblaw athro neu athrawes ysgol;
 ystyr “strwythur staffio” (“staffing structure”) yw'r trefniadau ar gyfer rheoli a lleoli'r holl staff yn yr ysgol;
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” yn adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;
 mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39(1) o Deddf Addysg 2002.
Dyletswydd corff perthnasol i adolygu strwythur staffio ysgol
3 

(1) Rhaid i'r corff perthnasol adolygu strwythur staffio'r ysgol yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r corff perthnasol gynnal yr adolygiad er mwyn sicrhau bod —
(a) rheoli a lleoli'r holl staff, a
(b) dyraniad cyfrifoldebau a dyletswyddau i'r holl staff,
yn defnyddio'i adnoddau yn effeithiol.
(3) Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried —
(a) o ran athrawon ysgol, y trefniadau cyflog ac amodau cyflogaeth athrawon a nodir yn y Ddogfen, a
(b) o ran staff cymorth, y goblygiadau ar gyfer eu graddio a'u talu.
(4) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r corff perthnasol ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y pennaeth yn unol â rheoliad 4 isod.
(5) Yn ystod y cyfnod y cynhelir yr adolygiad rhaid i'r corff perthnasol ymghynghori â'r canlynol —
(a) yr holl staff;
(b) cynrychiolwyr undebau llafur cydnabyddedig; ac
(c) personau eraill y mae'r corff perthnasol yn barnu sy'n briodol.
(6) Cyn neu ar 31 Mawrth 2006 rhaid i'r corff perthnasol —
(a) penderfynu ei adolygiad o'r strwythur staffio, a
(b) paratoi cynllun (“cynllun gweithredu”) sy'n dangos sut y mae'n bwriadu gweithredu unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio.
(7) Rhaid i gynllun gweithredu gynnwys —
(a) amserlen ar gyfer gweithredu, a
(b) y dyddiad erbyn pryd y bydd unrhyw newidiadau i'r strwythur staffio wedi cael eu gweithredu'n llawn, ac ni fydd y dyddiad hwnnw'n hwyrach na 31 Rhagfyr 2008.
(8) Os y corff llywodraethu yw'r corff perthnasol, mae'r ddyletswydd i adolygu strwythur staffio'r ysgol heb ragfarnu egwyddorion cyffredinol a rolau a chyfrifoldebau'r cyrff llywodraethu a'r penaethiaid yn eu trefn a nodir yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.
Dyletswydd y pennaeth i gynghori cyrff perthnasol
4 
Rhaid i'r pennaeth gynghori a chynorthwyo'r corff perthnasol ynglŷn â'i adolygiad o'r strwythur staffio o dan reoliad 3.
Dyletswydd corff perthnasol o ran rheoli'r pennaeth
5 
Wrth reoli'r pennaeth, rhaid i'r corff perthnasol roi sylw i'r dymunoldeb bod y pennaeth yn gallu cael cydbwysedd boddhaol rhwng yr amser y mae ei angen arno i gyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol a'r amser y mae ei angen arno i ddilyn ei ddiddordebau personol y tu allan i'r gwaith.
Dyletswydd awdurdod addysg lleol o ran unedau cyfeirio disgyblion
6 
Mae paragraffau (1) i (7) o reoliad 3, a rheoliadau 4 a 5 yn gymwys o ran unedau cyfeirio disgyblion gan roi yn lle'r cyfeiriadau at y corff perthnasol cyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol sy'n sefydlu ac yn cynnal yr uned cyfeirio disgyblion.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Gorffennaf 2005