
2005 Rhif 182 (Cy.15)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud 1 Chwefror 2005
Yn dod i rym 28 Chwefror 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005, maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig a deuant i rym ar 28 Chwefror 2005.
Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998
2 
Diwygir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru, yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) —
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “Commission Directive 2002/16” ychwaneger y geirau “as amended by Commission Directive 2004/13/EC”;
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “the Directive” ychwaneger y geiriau “as amended by Commission Directive 2004/1/EC”.
4 
Yn y darpariaethau canlynol, rhodder y ffigur “2006” yn lle'r ffigur “2005” —
(a) rheoliad 4A(1)(a);
(b) rheoliad 5(1)(b)(i);
(c) rheoliad 8A(1);
(ch) yn adran A o Ran I o Atodlen 1, yn eitem 40 yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau).
5 
Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn eitem 27A yng ngholofn 4 (cyfyngiadau a manylebau), ar ôl y geiriau “For use only as a blowing agent” ychwaneger y geiriau “Use prohibited as from 2 August 2005”.
6 
Yn rheoliad 10 (tramgwyddau) —
(a) yn lle paragraff (19) rhodder y ddarpariaeth ganlynol —“
(19) In any proceedings for an offence under regulation 3(1)(a) or (b) in relation to the requisite standards applicable to adhesives and materials and articles covered by a surface coating it shall be a defence to prove that —
(a) the adhesive, material or article was brought into contact with food before 28 February 2003;
(b) the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the adhesive, material or article at the time of sale; and
(c) the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council.”;
(b) hepgorer paragraff (20);
(c) yn union ar ôl paragraff (22) ychwaneger —“
(23) In any proceedings for an offence under regulations 3(1)(a) or (b) in relation to the sale as from 2 August 2005 of a plastic material or article containing azodicarbonamide with reference number 36640 in Part I of Schedule 2 it shall be a defence to prove that—
(a) the plastic material or article was brought into contact with food before 2 August 2005,
(b) the date of filling (or subject to paragraph (24) of this regulation a coded indication of the date of filling) of the material or article concerned appeared on the plastic material or article at the time of sale, and
(c) the labelling or marking with the particulars mentioned in subparagraph (b) at the time of sale complied with the requirements as regards labelling relating to durability contained in Article 2.1(a) of Directive 2000/13/EC of the European Parliament and the Council.
(24) For the purposes of paragraph (19)(b) and paragraph (23)(b) of this regulation the date signified by a coded indication shall have been made available on request to the Food Standards Agency and the enforcement authority.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Chwefror 2005